Newyddion S4C

Llythyron plant ysgol i ddioddefwyr anhrefn Mayhill

ITV Cymru 10/06/2021

Llythyron plant ysgol i ddioddefwyr anhrefn Mayhill

Mae plant Ysgol Gymraeg y Cwm wedi ysgrifennu llythyron at rheiny gafodd eu heffeithio gan anhrefn Mayhill fis diwethaf yn Abertawe.

Yn y llythyron rhannodd ddisgyblion yr ysgol gyfagos eu sioc a’u tristwch gyda’r bobl gafodd eu niweidio a’r rheiny welodd ddifrod i’w cartrefi ar 20 Mai.

Cynnwyd tân gwyllt, cafodd ceir eu rhoi ar dân a chafodd briciau eu taflu drwy ffenestri pobl, gyda saith heddwas o Heddlu De Cymru yn cael eu hanafu.

Dechreuodd y trais yn dilyn gwylnos i fachgen lleol 19 oed, Ethan Powell.

Roedd disgyblion blynyddoedd pump a chwech yn dymuno rhannu eu cydymdeimlad gyda’r gymuned. 

Image
Llythyr
Llun: Ysgol Gymraeg y Cwm

Fe ddanfonon nhw 24 llythyr i gyd.

Ysgrifennodd un plentyn:  “Annwyl ffrind, rwy’n flin iawn am beth ddigwyddodd ym Mayhill neithiwr.

“Rwyf yn gobeithio eich bod chi a’ch teulu’n iawn. Dylai’r ymddygiad hyn ddim gael ei oddef. Mae’r terfysgwyr yn haeddu mynd i’r carchar, pob un ohonynt! Mae hwn yn fy ngwneud i mor grac! 

"Rwy’n gobeithio bod eich cartref yn iawn. Roedd y trais yn wallgof.”

Image
Llythyr mayhill
Llun: Ysgol Gymraeg y Cwm

Dywedodd prifathrawes Ysgol Gymraeg y Cwm, Sara David: “O’n nhw’n teimlo’n drist, o’n nhw’n teimlo’n grac, o’n nhw’n teimlo eu bod nhw’n poeni.

“Daeth y plant i’r ysgol – yn amlwg roedd eu rhieni nhw wedi bod yn siarad gyda nhw am y digwyddiad ac yn siarad ymysg ei gilydd, ac felly dyma’r athrawes ddosbarth yn penderfynu cynnal trafodaeth dosbarth am y digwyddiad.

“O’dd e’n bwysig i ni wedyn yn yr ysgol i sianeli’r emosiynau yna a bod y plant yn weithredol, ac yn ystyried beth fydden nhw’n gallu gwneud i helpu’r sefyllfa. 

“Felly dyma nhw’n penderfynu eu bod nhw eisiau ysgrifennu llythyron at y trigolion ac at yr heddlu hefyd yn yr ardal.

“Mae’r ymateb wedi bod yn anhygoel. Cafon ni wybod fod yr heddlu wedi eu plesio’n fawr gan y llythyron”.

Mae’r plant wedi casglu eu llythyron mewn llyfryn i’w gynnwys yn arddangosfa’r ysgol am eu gwaith i gefnogi eu cymuned.

Prif Lun: Media Wales

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.