'Dagrau o ryddhad' wrth i Brif Weinidog yr Alban glywed fod aelodau o'i deulu wedi gadael Gaza
Mae Prif Weinidog yr Alban Humza Yousaf wedi dweud ei fod wedi crio “dagrau o ryddhad” ar ôl rhannu’r newyddion y byddai ei rieni yng-nghyfraith yn dod adref o Gaza.
Cafodd Elizabeth a Maged El-Nakla, rhieni gwraig Mr Yousaf, eu henwi ymhlith 92 o ddinasyddion Prydeinig oedd wedi cael yr hawl i groesi'r ffin o Rafah i'r Aifft fore dydd Gwener.
Roedd yr El-Naklas, o Dundee, yn Gaza yn ymweld â pherthnasau pan ddechreuodd y gwrthdaro, ac mae Mr Yousaf wedi rhannu diweddariadau rheolaidd ar sefyllfa ei deulu - gan gynnwys eu bod wedi gorfod yfed dŵr o'r môr oherwydd diffyg adnoddau yn Gaza.
'Rhyddhad aruthrol'
Wrth siarad ag asiantaeth newyddion PA, dywedodd Mr Yousaf ei fod ef a’i wraig wedi profu “rhyddhad aruthrol” a bod yr emosiynau yr oedden nhw wedi’u teimlo dros y pedair wythnos ddiwethaf wedi “gorlifo”.
Pan ffoniodd y Prif Weinidog ei lysferch 14 oed yn ystod egwyl ysgol ddydd Gwener, fe rannodd y ddau “ychydig o ddagrau” wrth glywed y newyddion.
Dywedodd Mr Yousaf: “Mae’r ddau ohonom wedi colli ychydig o ddagrau ac mae hi wrth ei bodd ac yn hapus iawn. Mae hi wedi bod yn eithriadol o bryderus.
“Fy mhlentyn pedair oed (Amal) - gallwn ei hamddiffyn i raddau ond mae fy mhlentyn 14 oed, Maya, yn gwybod popeth, yn gwylio popeth ac mae wedi bod yn anodd iawn iddi.”
Mae’r sefyllfa wedi effeithio ar Mr Yousaf a’i deulu, ond diolchodd i’r rhai a anfonodd negeseuon o gefnogaeth o bob rhan o’r tirlun gwleidyddol ledled y byd yn ogystal â’i dîm yn Llywodraeth yr Alban.