Newyddion S4C

Pryder fod 'cwymp' yn nifer myfyrwyr y Gymraeg yn creu llai o ddiddordeb mewn dysgu ieithoedd Celtaidd

04/11/2023
Cymdeithas Llydaw Cymru

Mae aelod o Gymdeithas Llydaw Cymru wedi dweud ei fod yn pryderu bod diffyg diddordeb mewn cyrsiau ieithoedd Celtaidd yn gysylltiedig â gostyngiad yn nifer y myfyrwyr sy’n penderfynu astudio’r Gymraeg. 

Yn wreiddiol o Gaerlŷr, mae Rhisiart Hincks yn pryderu fod gostyngiad yn nifer y myfyrwyr sy’n dewis astudio’r Gymraeg yn effeithio ar niferoedd y bobl sy’n debygol o fod eisiau dysgu Llydaweg a'r Wyddeleg. 

Wedi iddo ymgartrefu yn Aberystwyth yn y 70au cynnar – a hynny ar ôl iddo benderfynu astudio gradd yn y Gymraeg yno – fe ddechreuodd Mr Hincks ddysgu Llydaweg fel rhan o’i gwrs. 

Ac yntau bellach yn aelod o Gymdeithas Llydaw Cymru, mae Mr Hincks yn pryderu fod gostyngiad yn nifer y myfyrwyr sy’n astudio’r Gymraeg, naill ai yn y brifysgol neu fel pwnc Safon Uwch, yn effeithio ar eu mynediad at ieithoedd Celtaidd eraill. 

Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd: “Mae nifer y myfyrwyr Cymraeg yn y brifysgol trwy Gymru wedi lleihau.

“Mae llai o ddiddordeb yn y Gymraeg fel pwnc a felly mae nifer y bobl sy’n debygol o gael eu tynnu i ddysgu’r ieithoedd Celtaidd yn y brifysgol yn debygol o fod yn llai hefyd. 

“Mae’n broblem sydd eto yn cael ei weld yn yr ysgolion uwchradd lle mae llai o bobl yn ‘neud Cymraeg fel pwnc lefel A, felly mae hynny’n her ychwanegol; denu pobl i ddysgu’r iaith,” meddai. 

Image
Cymdeithas Llydaw Cymru
Cymdeithas Llydaw Cymru yn Llangrannog yn 2018

‘Angen buddsoddi’

Yn ôl Cymdeithas yr Iaith, "tanfuddsoddiad" mewn addysg cyfrwng Cymraeg sydd wrth wraidd y broblem.

Mae'r mudiad yn galw ar Lywodraeth Cymru i “fuddsoddi o ddifri” mewn addysg Gymraeg er mwyn sicrhau cynnydd yn nifer y myfyrwyr sy’n dewis astudio'r iaith, gan hefyd wella diddordeb mewn ieithoedd Celtaidd eraill.

“Mae'r gostyngiad yn nifer o fyfyrwyr sy'n astudio'r Gymraeg i lefel addysg bellach neu addysg uwch - ynghyd â'r diddordeb mewn ieithoedd Celtaidd eraill - yn anochel o ystyried y tanfuddsoddi mewn addysg cyfrwng Cymraeg yn gyffredinol,” meddai llefarydd ar eu rhan.

“Ar hyn o bryd, am bob plentyn sy'n derbyn addysg trwy gyfrwng y Gymraeg, mae pedwar yn cael eu methu.

“Y ffordd i ddadwneud hyn yw trwy fuddsoddi o ddifri mewn addysg cyfrwng Cymraeg fel bod gan bob plentyn a pherson ifanc y gallu i siarad yr iaith, ac ymddiddori yn ei hanes a’i pherthynas â’i chwaer ieithoedd.”

Ond mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod cynnydd bellach wedi bod yn nifer y cofrestiadau ar gyfer y Gymraeg ar safon uwch yn ystod y flwyddyn academaidd ddiwethaf. 

"Yn y flwyddyn academaidd ddiwethaf, roedd cynnydd yn nifer y cofrestriadau ar gyfer Cymraeg Iaith Gyntaf ac Ail Iaith ar Safon UG," meddai. 

“Mae gan bawb rôl i’w chwarae wrth hyrwyddo’r Gymraeg fel pwnc. Rydym yn gweithio gyda nifer o bartneriaid fel awdurdodau lleol a’r consortia rhanbarthol i barhau i gynyddu'r niferoedd sy'n astudio'r Gymraeg fel pwnc Safon Uwch ac yn y brifysgol.

“Rydym wedi cyhoeddi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth gyda Llydaw. Mae’n cynnwys ymrwymiad i gydweithio a rhannu arferion gorau ym maes yr iaith ac addysg a hyfforddiant, yn enwedig drwy hyrwyddo gweithgarwch cyfnewid rhwng pobl ifanc.”

‘Y genhedlaeth nesaf’

Mae Cymdeithas Llydaw Cymru yn cynnal ambell wers yn y Llydaweg yn ystod y flwyddyn, a hynny mewn gwahanol ardaloedd ledled Cymru. 

Eleni fe fydd yr aelodau'n cynnal gwersi yng Nghanolfan Owain Glyndŵr ym Machynlleth, gan obeithio gweld hyd at 20 o bobl yn mynychu’r cwrs ddydd Sadwrn. 

Dywedodd Mr Hincks ei fod yn “hollbwysig” cynnal gwersi o’r fath, a hynny’n sicrhau bod y gymdeithas yn parhau i “ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf.”

“’Oddwn ni’n ofni falle y bydd Cymdeithas Llydaw Cymru yn dod i ben wrth i nifer y pobl sy’n ei chynnal hi’n heneiddio a phenderfynu na allwn nhw ei ‘neud rhagor, ac mae rhai aelodau bellach wedi marw.

“Ond mi ddaeth nifer o bobl ifanc i ddweud bod y gymdeithas yn mynd yn ei flaen a ni’n falch iawn bod nhw wedi dod i sefyll yn bwlch yna i sicrhau bod parhad.”

Image
Cymdeithas Llydaw Cymru
Gwers Llydaweg yn cael ei chynnal yng Nghaerfyrddin y llynedd

“Mae cael mynd i ddosbarth yn help; yn ysbrydoliaeth, ac mae rhai sydd wedi dysgu rhywfaint ac yn gallu cynnal sgwrs yn hoffi cael y cyfle i ymarfer a ‘neud defnydd o’r hyn sydd gyda nhw,” ychwanegodd Mr Hincks.

“Mae’n bwysig bod ni’n cynnig y cyfle ‘na i nhw ‘chos mae digon o alw.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.