Sioe radio ar gyfer anifeiliad anwes yn dychwelyd ar noson tân gwyllt
Mae gorsaf radio Classic FM wedi cyhoeddi bod ei rhaglen ar gyfer anifeiliaid anwes yn dychwelyd mewn pryd ar gyfer noson tân gwyllt eleni.
Nod y rhaglen yw helpu anifeiliaid anwes pryderus a’u perchnogion yn ystod y cyfnod lle bydd nifer o danau gwyllt yn cael eu tanio.
Hon fydd y chweched flwyddyn i Pet Classics ar Classic FM gael ei darlledu dan ofal y cyflwynydd Charlotte Hawkins.
Dywedodd bod ganddi'r "dewis perffaith" o ganeuon i helpu anifeiliaid anwes i ymlacio.
“Rydyn ni’n gwybod am yr effeithiau cadarnhaol y mae cerddoriaeth glasurol yn ei gael ar bobl ac anifeiliaid anwes fel ei gilydd, yn enwedig yn ystod cyfnod o straen, felly mae gen i’r dewis perffaith o gerddoriaeth dawelu a setlo hyd yn oed y gwrandawr mwyaf pryderus.
“Mae croeso i bawb – o’r blewog i’r pluog – ac edrychaf ymlaen at weld yr holl luniau a fideos o anifeiliaid anwes yn ymlacio gyda mi ac yn mwynhau’r gerddoriaeth.”
Bydd y rhaglen yn cynnwys detholiad wedi’i guradu’n ofalus o’r gerddoriaeth glasurol fwyaf lleddfol, a ddewiswyd yn arbennig i dawelu unrhyw anifail anwes nerfus neu berchennog pryderus, meddai Ms Hawkins.
Bydd y cyflwynydd hefyd yn cynnwys negeseuon personol i wrandawyr ac yn chwarae'r caneuon maen nhw'n eu dewis.
Canfu arolwg effaith yn 2022 gan yr RSPCA fod 76% o ymatebwyr wedi dweud bod cŵn yn profi trallod o ganlyniad i dân gwyllt.
Yn flaenorol, mae'r elusen anifeiliaid wedi datgelu mai chwarae cerddoriaeth ymlaciol yw'r ffordd fwyaf cyffredin y mae perchnogion anifeiliaid anwes yn helpu i ymlacio neu baratoi eu hanifeiliaid ar gyfer Noson Tân Gwyllt.
Llun: Classic FM