
Cymraes o Ben Llŷn yn rhan o gynhyrchiad diweddaraf Love Island
Cymraes o Ben Llŷn yn rhan o gynhyrchiad diweddaraf Love Island
Fe fydd ap newydd Love Island yn cynnwys Cymraes o Ben Llŷn fel rhan o’r cast.
Mae Manon Elisabeth Roberts bellach yn byw yng Nghaerdydd.
Bu’n rhaid i Manon deithio i Gran Canaria i ffilmio deunydd ar gyfer yr ap a fydd yn galluogi defnyddwyr i gael y profiad o fod yn un o gystadleuwyr ar yr ynys.
Bydd yr ap yn lansio ddiwedd y mis i gyd-fynd a’r gyfres ddiweddaraf o’r rhaglen realaidd boblogaidd.
Dywedodd Manon: “Mae o gyd ‘di gael ei ffilmio drw’ mobile ffôn un o’r contestants so mae e mwy fatha real life experience yn y villa”.
'Dim cyswllt efo’r tu allan’
Roedd ffilmio yng nghanol pandemig yn her yn ôl Manon.
“Oddan ni’n gweithio yn ofnadwy o galad achos oddan ni ‘di planio aros yna am ‘ddeutu tair, bedair wsos ond efo’r cyfyngiada’ Covid obviously don ni ddim yn gallu gneud hynny”.
“Nathon ni gorfod ffilmio 25 episode mewn fatha pump diwrnod straight ar ôl ei gilydd so oddan ni’n cychwyn am tua 10 yn bora ac oddan ni’m yn gorffan tan tua dau neu dri o’r gloch y bora canlynol”.
Nid dyma’r tro cyntaf i Manon fod ynghlwm â Love Island.

Fe deithiodd hi i Dde Affrica i geisio am ran yng nghyfres Love Island: Winter Sun ar ddechrau 2019.
Er na wnaeth Manon ymddangos yn y gyfres yn y diwedd, roedd yn byw gyda nifer o bobl a aeth ymlaen i ymddangos ar y rhaglen.
Mae’n brofiad sydd yn dod â phobl ynghyd, yn ôl Manon.
“Mae’n un o’r profiada’ ‘na, ‘dach chi’n dreulio efo rywun, allwch chi’m really uniaethu efo neb arall achos mae o yn un o’r profiada’ lle ‘dach chi’n cael eich cau mewn”.
“Sgena chi ddim ffôn, dim cyswllt efo’r tu allan so ‘dach chi really’n goro’ gweithio ar y relationships sgeno chi efo’ch gilydd”.
'Lot o newid’
Mae’r gyfres wedi derbyn beirniadaeth yn y gorffennol am roi pwyslais gormodol ar edrych yn berffaith gydag elusennau wedi rhybuddio am effaith hyn ar iechyd meddwl unigolion.
Dywedodd ITV ar y pryd eu bod bob amser yn ceisio adlewyrchu oed, profiadau ac amrywiaeth eu cynulleidfa wrth gastio ar gyfer Love Island.
Mae Manon yn teimlo fod y gyfres wedi newid tipyn yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
“Dwi’n meddwl bod ‘na lot o newid wedi bod yn y sioe yn y blynyddoedd diwetha’,” dywedodd.
“Yn amlwg, pan ma’ rhywun yn mynd ar sioe fela lle mae ‘na gymaint o bobl yn gwylio, mae ‘na gymaint o bwysa’ i edrych yn dda ac ar ddiwedd y dydd ma’ rhywun mynd i fynd ar y sioe yn edrach yn dda.
“Ond, beth ma’ pobl angen ddallt ydi hefyd dydi o’m yn fywyd go iawn”, ychwanegodd.
Mae disgwyl i’r ap gael ei lansio’r un pryd a dechrau’r gyfres newydd ddiwedd y mis.
Dyma fydd y tro cyntaf i’r gyfres gael ei darlledu ers Chwefror 2020 oherwydd pandemig Covid-19.
Llun: Manon Elisabeth Roberts