Newyddion S4C

Llofrudd Zara Aleena wedi ennill cais y Llys Apêl i leihau isafswm ei ddedfryd oes

03/11/2023
Zara Aleena

Mae llofrudd Zara Aleena wedi ennill cais gan y Llys Apêl i leihau isafswm ei ddedfryd oes.

Fe wnaeth Jordan McSweeney ladd y ferch 35 oed wrth iddi gerdded adref o noson allan yn Ilford, dwyrain Llundain, ym mis Mehefin 2022.

Cafodd McSweeney, a wrthododd fynychu ei wrandawiad dedfrydu fis Rhagfyr y llynedd, ddedfryd oes gyda lleiafswm o 38 mlynedd ar ôl cyfaddef iddo lofruddio ac ymosod yn rhywiol ar Ms Aleena.

Mewn dyfarniad ddydd Gwener, canfu tri barnwr fod y barnwr dedfrydu wedi gosod "cynnydd" rhy uchel i isafswm cyfnod carchar McSweeney.

Maen nhw wedi gosod isafswm tymor o 33 mlynedd yn ei le.

Dywedodd yr Arglwyddes Brif Ustus Lady Carr: “Ar ôl canfod yr oedd Ms Aleena yn anymwybodol yn gynnar yn yr ymosodiad, nid oedd digon o dystiolaeth gan y barnwr i wneud yn siwr bod dioddefaint meddyliol neu gorfforol ychwanegol wedi bod er mwyn cyfiawnhau cynnydd i’r dedfryd 30 mlynedd cychwynnol.”

​Fe wnaeth McSweeney dargedu o leiaf pum dynes cyn iddo ymosod ar Ms Aleena. 

Arweiniodd yr ymosodiad at 46 o anafiadau gwahanol iddi. 

Mewn datganiad dywedodd modryb Ms Aleena, Farah Naz: “Mae penderfyniad heddiw, penderfyniad i leihau ei ddedfryd ef, yn cyd-fynd â fframwaith dedfrydu cyfreithiol sefydledig, fframwaith rydyn ni’n ei ddeall.

“Ond, mae’r neges y mae’n ei chyfleu i fenywod yn dorcalonnus, gan awgrymu efallai nad yw ‘dedfryd oes’ yn golygu oes y tu ôl i fariau mewn gwirionedd. Mae, a dweud y gwir, yn fuddugoliaeth bas."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.