Newyddion S4C

Cipolwg ar gemau penwythnos y Cymru Premier JD

04/11/2023
CPD Bae Colwyn

Bydd pencampwyr y Cymru Premier JD, Y Seintiau Newydd, yn gwneud y daith fer i'r Drenewydd, wrth i bob tîm herio ei gilydd ddydd Sadwrn.

Ar gyfartaledd, mae 31 pwynt wedi bod yn ddigon i sicrhau lle yn y Chwech Uchaf ers ffurfio’r fformat presennol yn 2010, ac mae’r Seintiau Newydd a Chei Connah eisoes wedi croesi’r trothwy hwnnw gyda wyth gêm i fynd tan yr hollt. 

Triphwynt yn unig sy’n gwahanu’r pedwar clwb nesaf yn y tabl rhwng y 3ydd a’r 6ed safle, a gyda’r pedwar yn chwarae gartref ddydd Sadwrn mi fydd pob un yn gobeithio cymryd cam yn nes at gadarnhau eu lle yn yr hanner uchaf.

Caernarfon (4ydd) v Pen-y-bont (7fed) | Dydd Sadwrn – 14:30

Bydd y Cofis yn awyddus i wneud yn iawn am eu perfformiad sâl yn erbyn Cei Connah y penwythnos diwethaf ble collon nhw 6-1 ar Gae-y-Castell, sef eu colled drymaf yn y gynghrair ers colli 6-1 gartref yn erbyn y Nomadiaid ym mis Ebrill 2021.

Ac er bod Caernarfon yn parhau i edrych yn weddol gyfforddus yn yr hanner uchaf, dim ond y ddau glwb isaf yn y tabl sydd wedi ildio mwy o goliau na thîm Richard Davies.

Mae’r Caneris unai wedi sgorio o leiaf tair gôl neu ildio o leiaf tair gôl mewn 10 o’u 11 gêm ddiwethaf ym mhob cystadleuaeth (ennill 5, colli 6).

Ond mae Caernarfon chwe phwynt uwchben Pen-y-bont, sydd wedi disgyn i’r hanner isaf am y tro cyntaf ers dwy flynedd ar ôl colli pedair gêm gynghrair yn olynol.

Ar ôl cyrraedd Ewrop y tymor diwethaf, byddai Pen-y-bont yn sicr wedi disgwyl cyrraedd y Chwech Uchaf y tymor hwn am y bedwaredd blynedd yn olynol, ond mae tîm Rhys Griffiths driphwynt o dan Y Bala (6ed) gyda gêm wrth gefn.

Er hynny, mae Pen-y-bont wedi ennill eu tair gêm ddiwethaf yn erbyn Caernarfon, yn cynnwys buddugoliaeth hwyr yn Stadiwm Gwydr SDM yn gynharach y tymor hwn yn dilyn gôl i’w rwyd ei hun ar ôl 97 munud gan Gruff John (Pen 3-2 Cfon).

Record cynghrair diweddar: 

Caernarfon: ❌✅✅❌✅

Pen-y-bont: ❌❌❌❌✅

Hwlffordd (8fed) v Bae Colwyn (11eg) | Dydd Sadwrn – 14:30

Gyda wyth gêm i fynd tan yr hollt, mae’r wythnosau nesaf am fod yn rhai allweddol yn nhymor Hwlffordd gan eu bod yn eistedd chwe phwynt o dan Y Bala (6ed), a chwe phwynt uwchben Bae Colwyn (safleoedd y cwymp).

Bydd Tony Pennock yn edrych i fyny ac yn teimlo efallai y dylai ei garfan fod yn cystadlu am le yn y Chwech Uchaf, yn enwedig ar ôl haf cofiadwy yn Ewrop, ond ar yr un pryd bydd yn edrych dros ei ysgwydd ac yn gwybod y byddai colled yn erbyn Bae Colwyn yn gallu tynnu’r Adar Gleision i lawr i’r dyfnderoedd. 

Dyw Hwlffordd ond wedi ennill tair o’u 14 gêm gynghrair y tymor hwn, gyda’r gyntaf o rheiny yn dod yn y gêm gyfatebol yn erbyn Bae Colwyn ‘nôl ym mis Medi (Bae 1-2 Hwl).

Ar ôl ennill dwy gêm yn olynol ym mis Medi mae Bae Colwyn wedi mynd ar rediad o chwe gêm gynghrair heb ennill gan sicrhau dim ond un pwynt o’r 18 posib.

Collodd y Gwylanod o 6-1 yn erbyn Y Seintiau Newydd nos Fawrth, sy’n golygu bod tîm Steve Evans yn parhau’n hafal ar bwyntiau gyda Aberystwyth ar waelod y tabl, bedwar pwynt o dan diogelwch y 10fed safle, gyda gêm wrth gefn.

Record cynghrair diweddar: 

Hwlffordd: ➖❌✅❌✅

Bae Colwyn: ͏❌❌❌➖❌

Met Caerdydd (5ed) v Cei Connah (2il) | Dydd Sadwrn – 14:30

Mae Cei Connah wedi mynd ar rediad o 12 gêm heb golli (ennill 10, cyfartal 2) gan agor bwlch o naw pwynt rhyngddyn nhw a’r Drenewydd (3ydd) ac felly mae hogiau Neil Gibson ar y trywydd cywir i orffen yn y ddau safle uchaf a hawlio lle’n Ewrop eto eleni.

Harry Franklin oedd seren y sioe i’r Nomadiaid y penwythnos diwethaf, yn sgorio pedair gôl yn yr hanner cyntaf yn erbyn Caernarfon, ac mae’r chwaraewr creadigol bellach yn gydradd bedwerydd ar restr cyfranwyr goliau’r gynghrair gyda 11 cyfraniad hyd yma (sgorio 6, creu 5).

Mae Met Caerdydd wedi codi i’r 5ed safle ar ôl ennill pedair o’u pum gêm ddiwethaf ym mhob cystadleuaeth, ac ers colli gartref yn erbyn Cei Connah ym mis Ebrill (Met 0-2 Cei), dyw’r myfyrwyr ond wedi colli un o’u wyth gêm gynghrair ar Gampws Cyncoed (vs YSN).

Mae gan Gei Connah record gryf yn erbyn Met Caerdydd, wedi ennill eu pedair gornest flaenorol gan ildio dim ond unwaith, ac wedi colli dim ond un o’u 23 gêm gynghrair yn erbyn clwb y brifddinas (cyfartal 7, ennill 15).

Record cynghrair diweddar: 

Met Caerdydd: ✅❌✅✅➖

Cei Connah: ✅✅➖͏➖✅

Y Bala (6ed) v Pontypridd (10fed) | Dydd Sadwrn – 14:30

Mae yna sefyllfa bryderus yn datblygu ym Mhontypridd gyda’r clwb wedi eu cyhuddo o dorri rheolau’r gynghrair ynglŷn â chytundebau, taliadau a chwarae chwaraewyr anghymwys.

Mae Pontypridd eisoes wedi cael eu gwahardd o Gwpan Cymru JD, ac mae siawns y bydd cosbau pellach i ddilyn.

Yn y cyfamser, bydd dau o golwyr gorau’r gynghrair yn cyfarfod ddydd Sadwrn gan bod Kelland Absalom a George Ratcliffe yn gydradd gyntaf ar frig rhestr y llechi glân gyda chwech yr un yn y gynghrair y tymor hwn.

Ond ben arall y cae mae’r trafferthion i’r ddau dîm yma gan bod Pontypridd ond wedi rhwydo pum gôl mewn 14 gêm hyd yma (0.36 gôl y gêm), a’r Bala ond wedi sgorio 11 (0.78 gôl y gem).

Does neb wedi ildio llai o goliau na’r Bala y tymor hwn (11 gôl mewn 14 gêm), ac er colli sawl chwaraewr dylanwadol dros yr haf mae tîm Maes Tegid yn gobeithio hawlio eu lle yn y Chwech Uchaf am y 10fed tymor yn olynol.

Ar ôl dechrau addawol i’w hymgyrch mae Pontypridd wedi gwanhau gan ennill dim ond un o’u naw gêm gynghrair ddiwethaf, a cholli saith o’r rheiny.

Yn ystod y cyfnod hwnnw fe gafodd hogiau Andrew Stokes gêm ddi-sgôr gartref yn erbyn Y Bala ym mis Medi, ond mae criw Colin Caton wedi ennill pob un o’u tair gêm gartref flaenorol yn erbyn Pontypridd.

Record cynghrair diweddar: 

Y Bala: ❌✅➖✅❌

Pontypridd: ❌❌❌✅❌

Y Barri (9fed) v Aberystwyth (12fed) | Dydd Sadwrn – 14:30

Bydd hon yn frwydr hollbwysig ar waelod y tabl gan mae dim ond pedwar pwynt sy’n gwahanu’r ddau glwb, ac Aberystwyth gyda gêm wrth gefn.

Mae’r Barri wedi dringo i’r 9fed safle ar ôl ennill tair o’u pedair gêm ddiwethaf ym mhob cystadleuaeth gan guro Bae Colwyn a Phontypridd, sef y ddau glwb arall sydd mewn sefyllfa petrusgar yn y gynghrair.

Bydd yr hyder yn uchel yng ngharfan Aberystwyth hefyd gan eu bod ond wedi colli un o’u pedair gêm flaenorol, gan guro Pen-y-bont nos Wener diwethaf, a chael gêm gyfartal yn erbyn Cei Connah yn ddiweddar.

Hon fydd y gêm gynghrair gyntaf rhwng y timau ers Ebrill 2022 pan enillodd Aberystwyth 1-0 ar Barc Jenner trwy gôl gynnar Steff Davies i yrru’r Barri lawr i’r ail haen, a dyw’r Gwyrdd a’r Duon heb golli dim un o’u pum gornest flaenorol yn erbyn y Dreigiau (ennill 4, cyfartal 1), 

Record cynghrair diweddar: 

Y Barri: ✅❌✅❌❌

Aberystwyth: ✅❌➖❌✅

Y Drenewydd (3ydd) v Y Seintiau Newydd (1af) | Dydd Sadwrn – 14:30

Wedi buddugoliaeth gyfforddus o 6-1 gartref yn erbyn Bae Colwyn nos Fawrth mae’r Seintiau Newydd wedi mynd chwe phwynt yn glir ar frig y tabl.

Mae cewri Croesoswallt bellach ar rediad o 20 gêm heb golli ym mhob cystadleuaeth (ennill 18, cyfartal 2), ac yn llygadu eu 16eg pencampwriaeth.

Dringodd cefnwr y Seintiau, Josh Daniels i frig rhestr y creuwyr nos Fawrth (8) a Ryan Brobbel yn codi i frig rhestr y cyfranwyr goliau (sgorio 10, creu 5).

Ond blaenwr Y Drenewydd, Aaron Williams ydi prif sgoriwr y gynghrair gyda 12 gôl, ac mae’r golwr Andrew Wycherley yn un o bedwar sydd yn gydradd gyntaf ar restr y llechi glân (6) ac mae gan y Robiniaid gêm wrth gefn ar y gweddill.

Roedd Y Drenewydd wedi ennill wyth gêm yn olynol ers dechrau mis Medi, ond ar ôl colled yn erbyn Met Caerdydd a gêm gyfartal yn erbyn Hwlffordd mae’r Robiniaid wedi colli momentwm.

Mae’r pencampwyr wedi ennill eu pedair gêm ddiwethaf yn erbyn Y Drenewydd gan sgorio 17 o goliau (4.25 gôl y gêm), a dyw’r Drenewydd ond wedi sgorio un gôl yn eu saith gêm gartref flaenorol yn erbyn Y Seintiau Newydd.

Record cynghrair diweddar: 

Y Drenewydd: ➖❌✅✅✅

Y Seintiau Newydd: ✅✅✅✅✅

Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio a bydd y gorau o gemau’r penwythnos i’w gweld ar S4C nos Lun am 9:35.

Llun: Sam Eaden / Cymdeithas Bêl-droed Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.