Menywod Cymru'n colli yn erbyn Awstralia yn Seland Newydd
Colli fu hanes menywod Cymru yng nghystadleuaeth y WXV1 o 25-19 yn erbyn Awstralia yn Auckland fore dydd Gwener.
Mae’r golled yn golygu fod Cymru wedi gorffen yn safle olaf y gynghrair yn y gystadleuaeth ar ôl colli yn erbyn Canada a Seland Newydd.
Fe aeth Awstralia ar y blaen gyda chais gan yr asgellwr Maya Stewart ond fe darodd Cymru nôl gyda chais gan y bachwr Carys Phillips gyda’r mewnwr Keira Bevan yn trosi.
Fe giciodd maswr Awstralia Carys Dallinger gôl gosb i osod Awstralia ar y blaen o 8-7 ar yr egwyl.
Fe dderbyniodd blaenasgellwr Awstralia Siokapesi Palu gerdyn coch am dacl uchel ar gefnwr Cymru Jasmine Joyce.
Fe fanteisiodd Cymru ar hyn ac fe sgoriwyd cais cosb i osod Cymru nôl ar y blaen o 14-8.
Roedd Awstralia i lawr i 13 chwaraewr am gyfnod wedi i’r prop Sera Naiqama dderbyn cerdyn melyn.
Daeth Awstralia yn ôl gyda chais gan y prop Eva Karpani.
Fe ddaeth cais arall i Awstralia, er mai 14 o chwaraewyr oedd ar y cae ganddyn nhw, gan yr eilydd Lori Cramer gyda Dallinger yn trosi i’w gosod 20-14 ar y blaen.
Fe sgoriodd yr asgellwr Ivania Wong bedwerydd cais i Awstralia gan ddiffodd gobeithion Cymru gyda phum munud yn weddill o’r gêm.
Ond fe lwyddodd Cymru i sgorio cais arall gan y canolwr Kelsey Jones yn y munudau olaf i sicrhau diweddglo cyffrous.
Ond ofer fu eu hymdrechion.
Y sgôr terfynol: Awstralia 25-19 Cymru.
Llun: Asiantaeth Huw Evans