Newyddion S4C

Arbenigwyr hawliau dynol y Cenhedloedd Unedig yn cyhuddo Israel o 'hil-laddiad'

03/11/2023

Arbenigwyr hawliau dynol y Cenhedloedd Unedig yn cyhuddo Israel o 'hil-laddiad'

Mae saith arbenigwr hawliau dynol ar ran y Cenhedloedd Unedig yn credu bod sifiliaid yn Gaza mewn perygl difrifol o “hil-laddiad” a bod amser yn mynd yn brin i atal yr hyn sy’n digwydd.

Mae Israel wedi cyhuddo rhai aelodau o’r Cenhedloedd Unedig o ailadrodd propaganda Hamas am y sefyllfa yn Gaza.

Mae’r sefydliad yn honni fod Israel yn bwriadu “dinistrio” Llain Gaza a galwodd ar Israel a’i chynghreiriaid i gytuno i gadoediad ar unwaith, ac ar Hamas a milwriaethwyr eraill i ryddhau’r holl sifiliaid caeth.

“Mae’r sefyllfa yn Gaza wedi cyrraedd pwynt tyngedfennol trychinebus,” medden nhw.

Dywedodd Stéphane Dujarric, llefarydd ar ran Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, António Guterres, mai dim ond corff barnwrol perthnasol y Cenhedloedd Unedig y gallai nodi sefyllfa fel un o hil-laddiad.

Mae Israel wedi cyhuddo Hamas o ddefnyddio sifiliaid fel tarianau dynol a dargyfeirio cymorth ar gyfer gweithrediadau terfysgol.

“Daethpwyd â’r rhyfel presennol ar Israel gan derfysgwyr Hamas a gyflawnodd gyflafan ar Hydref 7, gan ladd 1,400 o bobl a herwgipio 243 o blant, dynion a merched,” meddai cenhadaeth Israel wrth y Cenhedloedd Unedig. 

Daw wrth i Ysgrifennydd Gwladol yr UDA Antony Blinken gyrraedd yn Israel ar ei ail ymweliad ers ymosodiadau Hamas ar 7 Hydref.

Mae disgwyl iddo gynnal trafodaethau pellach gyda llywodraeth Israel a Gwlad yr Iorddonen.

Dywedodd byddin Israel nos Iau eu bod nhw bellach wedi amgylchynu Dinas Gaza.

Dyfodol

Wrth siarad gyda Newyddion S4C, dywedodd Y Parchedicaf Andrew John, Archesgob Cymru fod angen sicrhau bod gan bobl Israel a Phalestina dyfodol.

“Ma rhaid i ni gael rhyw fath o oedi i sicrhau bod lorïau yn gallu ddod i mewn," meddai.

“Ac ar ôl hynny wrth gwrs, ma’ rhaid i ni ddycwelyd at y prif sefylla, y prif pwynt; bod ‘na anghytundeb rhwng Israel a’r pobl Palesteiniaid a ma’ rhaid i ni ailddechrau y broses i sicrhau bod ‘na dyfodol da ar gyfer pobl Israel a phobl Palestine hefyd.

Ychwanegodd ei fod yn pryderu am y berthynas rhwng gwahanol gymunedau ffydd yma ym Mhrydain.

“I ni wedi gweld, falle gychwyn o’r pethau sydd yn difrifol yma ym Mhrydain lle bod pobl yn ymwahanu ac yn sefyll ar yr un ochr neu’r llall.

“Ma’ rhaid i ni sicrhau bod y trafodaet sydd yn digwydd, falle fydd yn digwydd, yn y Dwyrain Canol yn digwydd yma ym Mhrydain i sicrhau bod y cymunedau yma ddim o dan beryg
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.