Ailagor ffordd fawr yng Ngheredigion yn dilyn gwrthdrawiad
03/11/2023
Bu'n rhaid cau ffordd yr A487 yng Ngheredigion am gyfnod fore dydd Gwener yn dilyn gwrthdrawiad.
Roedd y ffordd wedi cau yn y ddwy ffordd rhwng Llanrhystud a Blaenplwyf i’r de o Aberystwyth am dros awr.
Roedd Heddlu Dyfed-Powys wedi cynghori teithwyr i osgoi’r ardal.