Ken Owens: Dim disgwyl i fachwr Cymru a’r Scarlets ddychwelyd ‘yn y dyfodol agos’
Ni fydd bachwr Cymru a’r Scarlets Ken Owens yn dychwelyd o anaf “yn y dyfodol agos” yn ôl ei glwb.
Fe gollodd Owens, 36 oed, Cwpan y Byd yn Ffrainc oherwydd anaf i’w gefn ac mae’n dal i frwydro nôl i chwarae dros ei glwb.
Dywedodd prif hyfforddwr y Scarlets Dwayne Peel nad oedd dyddiad pendant iddo ddychwelyd.
Dywedodd Peel: “Y gwir yw nid oes gyda ni unrhyw ddyddiad.
"Gyda Ken, mae wedi bod yn adferiad hir a chymhleth iddo.”
Fe frwydrodd Owens yn ôl o anaf i fod yn gapten ar Gymru yn ystod y Chwe Gwlad yn 2023 ac er iddo golli Cwpan y Byd dywedodd y bachwr, sydd hefyd wedi cynrychioli’r Llewod, nad oedd am ymddeol o rygbi rhyngwladol.
Ychwanegodd Peel: “Yr hyn dwi’n gwybod am Ken yw os oes cyfle iddo ddychwelyd, fe fydd yn rhoi popeth i wneud.”