
Galw am ddatrys honiadau bwlio o fewn S4C yn gynt

Ddylai’r honiadau o fwlio o fewn S4C “ddim bod yn cymryd cyhyd i’w datrys,” yn ôl un o gyn-aelodau Awdurdod y sianel.
Yn ôl Dr Dyfrig Jones, mae “dyletswydd ar bob cyflogwr i fod yn datrys cwynion mewn modd sydd yn amserol.”
Mewn cyfweliad â’r rhaglen Y Byd yn ei Le, mae Dr Jones hefyd yn dweud bod Bwrdd Unedol S4C “yn ei gyfanrwydd angen cymryd cyfrifoldeb am hyn.”
Ym mis Mehefin, fe gyhoeddodd Cadeirydd S4C fod cwmni cyfreithiol wedi cael ei benodi i ymchwilio i honiadau o fwlio a “diwylliant o ofn” o fewn S4C.
Dywedodd llefarydd ar ran S4C y bydd “aelodau anweithredol Bwrdd S4C yn ystyried canlyniad y broses canfod ffeithiau maes o lew, ac yn ymateb yn gyhoeddus.”
Yn ôl undeb Bectu, wnaeth godi’r pryderon gyda’r sianel cyn yr haf, mae’r cwynion yn dyddio’n ôl mor bell a Thachwedd 2022.
Mewn llythyr at aelodau annibynnol Bwrdd Unedol S4C, a welwyd gan Newyddion S4C, dywedodd undeb Bectu fod yna “ddiwylliant o ofn” yn bodoli yno.
Aeth y llythyr ymlaen i ddweud bod “staff yn aml yn cael eu dwyn i ddagrau” ac “yn rhy ofnus i gyflwyno eu profiadau trwy’r broses arferol o gyflwyno cwynion.”
Wrth ymateb i hynny, dywedodd Dr Dyfrig Jones: “Yn sicr, ddylai cwynion ynglŷn â’r math yma o beth ddim bod yn cymryd cyhyd i’w datrys.
“Mae yna ddyletswydd ar bob cyflogwr i fod yn datrys cwynion mewn modd sydd yn amserol, sydd yn dryloyw, sydd yn arwain at newid diwylliant yn y gweithle.”
“Dwi’n credu bod ymyrraeth Bectu wedi bod yn eithriadol o werthfawr… mae nhw wedi gwneud y peth iawn yn hyn o beth dwi’n teimlo.”
Yn ôl Dr Dyfrig Jones: “mae gwrthdaro wedi bod yn rhan o hanes S4C ers degawdau.
“Mae yna gyfnodau wedi bod lle mae yna wrthdaro: gwrthdaro mewnol, gwrthdaro rhwng gwahanol rannau o’r sianel, ac wrth gwrs gwrthdaro rhwng rhannau o’r sianel a’r sector cynhyrchu - ac mae hwnnw wedi bod, mae gen i ofn, yn rhan o hanes y sianel.
“Fedra’i ddim dychmygu ei bod hi’n brofiad braf iawn bod i fod yn S4C ar hyn o bryd.
“Mae unrhyw un sy’n gweithio yna’n awyddus i jyst fwrw ymlaen efo’r gwaith, gwneud y pethau mae nhw wedi’u penodi i wneud ac mae cael rhywbeth fel hyn… mae’n sicr yn mynd i fod yn gwmwl dros y sianel.”

Bydd setliad presennol ariannol S4C gan Lywodraeth y DU yn dod i ben 2028, gyda thrafodaethau’n debygol o ddechrau yn 2027.
"Fyddwn i ddim yn dymuno gorfod mynd i gyfarfod y gweinidog diwylliant nesa, efo S4C mewn sefyllfa debyg i le mae heddiw,” meddai Dr Jones.
“Dwi’n meddwl mai’r flaenoriaeth ydy datrys y sefyllfa cyn bod y llywodraeth nesaf yn ei lle, er mwyn sicrhau nad ydy’r cwmwl yma dros ddyfodol S4C ddim yn parhau dros y bum mlynedd nesaf.”
Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Unedol S4C: “Mae S4C yn cydweithio’n agos ac yn llwyddiannus gyda’r cwmniau cynhyrchu ar draws Cymru. Mae gan y cwmnïau rôl allweddol i’w chwarae yn darparu cynnwys o ansawdd uchel ar draws amrywiol lwyfannau sy’n cael ei fwynhau a’i werthfawrogi gan ein cynulleidfaoedd.
“Comisiynwyd y broses canfod ffeithiau annibynnol gan aelodau anweithredol y Bwrdd ddiwedd Ebrill 2023, mewn ymateb i lythyr gan Bectu a gododd bryderon sylweddol am yr amgylchedd gwaith o fewn S4C.
“Roedd y llythyr yn cyfeirio'n benodol at awyrgylch lle nad oedd rhai unigolion yn teimlo eu bod yn gallu codi pryderon.
“Mae'r Bwrdd am ei gwneud yn gwbl glir bod yn rhaid i S4C gynnig amgylchedd gwaith hapus a chynhyrchiol ac yn un lle gall staff godi unrhyw bryderon heb ofn a bod y staff yn teimlo bod modd trin unrhyw bryderon mewn modd teg a rhesymol.
“Bydd aelodau anweithredol Bwrdd S4C yn ystyried canlyniad y broses canfod ffeithiau maes o law, ac yn ymateb yn gyhoeddus.”
Gwyliwch Y Byd yn ei Le am 21:00 ar S4C, Clic a BBC iPlayer.