
Pryder bod nifer o ardaloedd Cymru'n colli eu pobl ifanc

Pryder bod nifer o ardaloedd Cymru'n colli eu pobl ifanc
Mae Aelod Ceidwadol o'r Senedd wedi mynegi pryderon am nifer y bobol ifanc sy'n gadael cefn gwlad Cymru.
Yn ôl Sam Kurtz, mae'n rhaid buddsoddi yn swyddi'r dyfodol i fynd i'r afael â'r broblem.
Mae un cwmni sy'n ceisio atal be sy'n cael ei alw yn brain drain yn dweud bod anwybodaeth am gyfleoedd yng Nghymru wedi cyfrannu at y sefyllfa.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod nhw'n "gwneud popeth o fewn ein gallu i helpu pobl ifanc i gynllunio’u dyfodol yng Nghymru."
Mae twf poblogaeth Cymru yn arafu, yn ôl cyfrifiad 2021.
Fe gynyddodd o 1.4% yn y deng mlynedd diwethaf - yr isaf o unrhyw wlad yn y Deyrnas Unedig.
Mae ffigyrau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol hefyd yn dangos bod y rhan fwyaf o awdurdodau lleol Cymru wedi gweld mwy o bobol 18-29 oed yn symud i ffwrdd yn y ddegawd ddiwethaf.
Bu Osian Elis, 24, - sydd yn wreiddiol o Abergele - yn astudio ym Mhrifysgol Rhydychen.
Ar ôl graddio, penderfynodd ddychwelyd i Gymru a chafodd swydd gyda chyngor Gwynedd.
"Trwy gydol fy nghyfnod i yn y brifysgol roedd chwilio am swydd lle y gallwn weithio drwy gyfrwng y Gymraeg yn rhywbeth pwysig iawn i fi," meddai.
Mae'n dweud bod yna ffactorau "tynnu a gwthio" sy'n golygu fod pobol ifanc yn gadael a ddim yn dod yn ôl.
"O ran y rheini sydd yn gwthio, efallai mai'r ddwy brif broblem yw yn y lle cyntaf mae yna ddiffyg swyddi sy'n talu yn uchel a diffyg ystod o swyddi amrywiol,"meddai.
"Ac yn ail, y broblem tai, a bod na ddiffyg tai rhent fforddiadwy a hefyd diffyg tai i bobol allu prynu nhw."
Cafodd rhwydwaith Darogan ei sefydlu yn 2018 gyda'r nod o ddenu myfyrwyr fu'n astudio tu allan i Gymru i ddychwelyd ar ôl graddio.
Mae nhw wedi derbyn buddsoddiad gan gwmni Equal Education Partners bellach gan olygu eu bod yn gwmni siartredig.

"Rwy'n meddwl bod lot o fyfyrwyr gyda diddordeb i ddod yn ôl," meddai Owain James, un o sylfaenwyr Darogan Talent.
"Mae yna lot yn eu tynnu nhw yn ôl fel teulu, iaith ac amryw o bethau eraill.
"Er bod cyflogau efallai yn uwch yn Llundain...achos bod y costau byw gymaint yn uwch byddwch chi'n cael mwy o arian os byddech chi'n aros a gweithio yng Nghaerdydd ar gyfartaledd.
Ychwanegodd: "Mae yna elfen o daclo anwybodaeth eang."
Mae'r Aelod o'r Senedd dros Orllewin Caerfyrddin a De Penfro Sam Kurtz wedi disgrifio'r sefyllfa fel "pryderus".
Dywedodd y Ceidwadwr: "Os 'ni'n edrych ar awdurdodau lleol fel Sir Benfro a llefydd cefn gwlad mae angen pobol ifanc i wneud swyddi lle mae'r boblogaeth yn heneiddio.
"Mae rhai pobol eisiau cyfle i adael Cymru i gael rhywbeth arall a dysgu rhywbeth arall, ac mae angen iddyn nhw gael y cymorth hynny.
"Ond wedyn mae'n rhaid bod rhywbeth i dynnu nhw yn ôl i Gymru i gyfrannu i fywyd yma. Fysen ni'n licio gweld buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru mewn i ddiwydiant sydd am roi sgiliau i'r dyfodol i bobol yma yng Nghymru."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Gan ddefnyddio’r cryfderau unigryw sydd gan economïau lleol, rydyn ni’n gweithio i greu gwell swyddi ac i wella sgiliau er mwyn cefnogi busnesau ar adeg pan mae’r cefndir economaidd yn mynd yn fwyfwy anodd.
"Yn ddiweddarach yn y mis, bydd Gweinidog yr Economi yn amlinellu sut mae helpu pobl ifanc i sicrhau’r dyfodol uchelgeisiol y maen nhw’n ei haeddu yng Nghymru yn un o’r blaenoriaethau allweddol i economi Cymru.
"Rydyn ni hefyd yn mynd i'r afael â’r nifer mawr o ail gartrefi, sy’n gallu effeithio ar gymunedau a'u cynaliadwyedd, drwy weithredu'r pecyn ehangaf o ymyriadau a welwyd yn y DU. Mae'r lefel uchaf erioed o fuddsoddiad wedi'i wneud hefyd i gefnogi’n hymrwymiad i ddarparu 20,000 o gartrefi ychwanegol i'w rhentu yn y sector cymdeithasol yn ystod tymor y llywodraeth hon."
Prif Lun: Osian Ellis