Newyddion S4C

Yr ardd ym Mhro Morgannwg sy'n gartref i dros 700 o grwbanod

ITV Cymru 02/11/2023
Crwban

Bydd gardd yn Sili’n troi’n gartef i fwy na 700 o grwbanod dros y misoedd nesaf.

Mae’r creaduriaid yn arfer cysgu trwy'r gaeaf, ond mae'r tywydd cynnes diweddar wedi achosi problemau, a mae perchnogion crwbanod wedi bod yn chwilio am atebion.

Mae Noddfa Crwbanod Sili ym Mhro Morgannwg yn encilfa gaefgysgu i grwbanod.

Mae’r noddfa wedi gweld pobl yn gyrru o Lundain er mwyn sicrhau bod eu crwban yn gallu gaeafgysgu.

Eleni, mae’r encilfa wedi cael mwy o grwbanod nag erioed oherwydd y tywydd poeth yn ystod misoedd  Medi a Hydref. 

Dywedodd Darryl: “Dydw i ddim wir eisiau crwban yn yr oergell wrth ymyl y kievs cyw iâr, yn enwedig am 8-9 wythnos. Byddai'n well gen i iddo fod yn ddiogel, bod allan a chael ei fonitro.”

Image
Crwbanod

Bydd y crwbanod yn treulio’r misoedd nesaf mewn sied gyda thymheredd rheoledig lle mae pob crwban yn cael gwely mewn bocs ei hun.

Mae’r encilfa yn elusen, felly mae’n her gyson i gadw’r cyfleusterau a’r gwasanaethau i fynd. 

Dywedodd Martyn Lewis, prif wirfoddolwr yr encilfa: “Yn y gaeaf, mae ein biliau trydan yn mynd trwy'r to ac yn yr haf, mae'r biliau bwyd yn codi a'r biliau trydan yn mynd i lawr. Mae'n her gyson ac mae ein prif incwm yn dod o aeafgysgu."

Image
Crwban

Er bod yna gynnydd wedi bod yn ei phoblogrwydd, mae pobl wedi bod yn defnyddio’r encilfa ers blynyddoedd.

Mae un ddynes wedi ymweld â’r lleoliad yn Sili am fwy na deng mlynedd.

Dywedodd: “Fyddwn i ddim yn gwybod ble i ddechrau gaeafgysgu crwban.

“Fe wnes i ddarganfod hyn ddeng mlynedd yn ôl nawr, maen nhw'n gwneud gwiriad meddygol, yna maen nhw'n mynd i gysgu ac yna byddwn yn eu casglu fis Mawrth.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.