Newyddion S4C

Apêl am wybodaeth wedi i 'hyd at 80' o geir gael eu difrodi yn Nhreganna, Caerdydd

02/11/2023

Apêl am wybodaeth wedi i 'hyd at 80' o geir gael eu difrodi yn Nhreganna, Caerdydd

Mae Heddlu'r De yn apelio am wybodaeth wedi i ddifrod troseddol gael ei achosi i "hyd at 80" o geir ar stryd yng Nghaerdydd.

Digwyddodd y difrod am 01:00 ar nos Fawrth 31 Hydref ar Heol Lansdowne, Treganna, gyda'r heddlu'n dweud fod y dyn wedi difrodi'r cerbydau'n fwriadol.

Mae'r heddlu'n gofyn i unrhyw un sydd gyda gwybodaeth i gysylltu gan ddefnyddio'r cyfeirnod 2300370697.

Llun & fideo: Heddlu De Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.