Newyddion S4C

Warren Gatland yn cyhoeddi tîm Cymru i wynebu'r Barbariaid

02/11/2023
Rygbi Cymru

Bydd Leigh Halfpenny yn chwarae ei gêm olaf dros Gymru a fe fydd Jac Morgan yn gapten pan fydd Cymru yn herio'r Barbariaid ddydd Sadwrn.

Y  gêm yn Stadiwm Principality fydd gêm gyntaf Cymru ers Cwpan y Byd.

Dyma fydd gêm olaf Leigh Halfpenny i'r tim cenedlaethol yn dilyn gyrfa sydd wedi para 15 o flynyddoedd. Mae wedi ennill 101 o gapiau yn y cyfnod hwnnw.

Jac Morgan fydd y capten a bydd Dan Lydiate yn chwarae fel asgellwr ochr dywyll ac Aaron Wainwright fel rhif 8.

Bydd cyd-gapten Cymru yng Nghwpan y Byd, Dewi Lake, yn dechrau yn y rheng flaen gyda Corey Domachowski a Lloyd Fairbrother, a gafodd ei alw i'r garfan ddydd Iau.

Daw hyn wedi i Keiron Assiratti adael y garfan gydag anaf i'w bigwrn a Leon Brown yn gorfod gadael gydag anaf hefyd.

Ben Carter ac Adam Beard sydd wedi cael eu dewis yn yr ail reng.

Tomos Williams fydd y mewnwr , gyda Sam Costelow yn faswr.

Mae George North yn parhau yn safle'r canolwr a bydd Johnny Williams yn bartner iddo yng nghanol y cae.

Leigh Halfpenny, Rio Dyer a Tom Rogers sydd yn y safleoedd y cefnwr ac asgellwr.

Bydd Alun Wyn Jones a Justin Tipuric hefyd yn rhan o'r garfan.

'Cyfle i ddangos gallu'

Dywedodd Warren Gatland bod y gêm hon yn gyfle i chwaraewyr dangos eu gallu.

"Mae chwarae yn erbyn tîm Barbariaid sydd yn llawn chwaraewyr o  safon yn her dda i'r grŵp yma ac yn gyfle i chwaraewyr ddangos beth mae nhw'n gallu ei wneud.

"Rydym yn edrych ymlaen at chwarae o flaen torf yng Nghymru ddydd Sadwrn."

Dywedodd ei fod hefyd yn gyfle i gefnogwyr weld Leigh Halfpenny, Alun Wyn Jones a Justin Tipuric yn chwarae rygbi rhyngwladol am y tro olaf.

Carfan Cymru:

15. Leigh Halfpenny
14. Tom Rogers
13. George North
12. Johnny Williams
11. Rio Dyer
10. Sam Costelow
9. Tomos Williams
1. Corey Domachowski
2. Dewi Lake 
3. Lloyd Fairbrother
4. Ben Carter
5. Adam Beard
6. Dan Lydiate
7. Jac Morgan (capten)
8. Aaron Wainwright

Eilyddion

16. Elliot Dee 
17. Nicky Smith 
18. Harri O'Connor
19. Teddy Williams
20. Taine Plumtree
21. Keiran Hardy
22. Cai Evans
23. Mason Grady 

Llun: Asiantaeth Huw Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.