
Diffoddwr tân wedi gosod record byd newydd ar Yr Wyddfa
Mae diffoddwr tân a chyn-filwr wedi gosod record byd newydd ar Yr Wyddfa.
Aeth Greg Wilson i fyny ac i lawr mynydd uchaf Cymru naw gwaith mewn 48 awr tra’n cario 40 pwys (18.14kg) ar ei gefn.
Fe wnaeth Mr Wilson, 25 oed o Swydd Efrog, a chyn-aelod o'r Comandos Morol Brenhinol, gyflawni’r her er mwyn codi arian ac ymwybyddiaeth ar gyfer Elusen y Diffoddwyr Tân ac Elusen y Môr-filwyr Brenhinol.
Rhwng 24 a 25 o Hydref aeth Mr Wilson fyny Llwybr Llanberis, sy'n 9 milltir o hyd ac yn dringo 975m. Dros y 48 awr, teithiodd 81 milltir ac uchder o 8,775 medr - sydd ond 74m yn fyrrach nag uchder Mynydd Everest.

Gosododd record dygnwch byd newydd ar y mynydd trwy fynd i fyny'r mynydd 6 gwaith yn y 24 awr gyntaf, gan guro'r record flaenorol o 5 yn yr amser hynny, a gosod record newydd ar gyfer y rhan fwyaf o deithiau i fyny'r mynydd mewn 48 awr.
Mae'r person cyffredin yn cymryd 5-7 awr i gwblhau'r daith i fyny’r Wyddfa. Ar gyfartaledd, amser Mr Wilson oedd 3 awr 45 munud ar draws yr her gyfan er gwaethaf baich y pac trwm 40 pwys.
Llwyddodd i gasglu dros £2,000 tuag at Elusen y Diffoddwyr Tân ac Elusen y Môr-filwyr Brenhinol.
'Her aruthrol'
Dywedodd Greg Wilson, “Roedd hon yn her aruthrol, ond roeddwn i wir eisiau ysbrydoli fy merch i weithio'n galed a gwthio eich terfynau.
“Fel diffoddwr tân a chyn Gomando Morol Brenhinol, dwi’n deall effaith gorfforol a phwysau aruthrol y swyddi hyn. Mae'r ddau wasanaeth fel teulu gyda chyfeillgarwch gwych, ond mae'r gwaith yn hynod o feichus ac mae'r ddwy elusen yn cynnig cymorth amhrisiadwy i'r gweithwyr.
“Buom yn lwcus iawn gyda’r tywydd, roedd awyrgylch gwych ar y mynydd gyda phobl yn garedig yn cymeradwyo pob copa ac rwy’n falch iawn o’r gamp hon a’r arian a godwyd.”
Mae Elusen y Diffoddwyr Tân ac Elusen y Môr-filwyr Brenhinol yn helpu gweithwyr presennol, a gweithwyr sydd wedi ymddeol a’u teuluoedd gydag amrywiaeth o adnoddau gan gynnwys iechyd meddwl, iechyd corfforol ac addysg.