Cynnal cwest i farwolaeth y chwaraewr hoci iâ Adam Johnson
Bydd cwest yn cael ei gynnal i farwolaeth y chwaraewr hoci iâ Adam Johnson, fu farw yn ystod gêm dros y penwythnos.
Roedd Johnson yn 29 oed ac yn chwarae i dîm y Nottingham Panthers yn erbyn Sheffield Steelers pan gafodd ei daro yn ei wddf yn honedig gan esgid sglefrio gwrthwynebwr.
Roedd 8,000 yn bresennol yn y stadiwm yn ystod yr ymdrechion i geisio achub bywyd Mr Johnson wrth iddo orwedd ar ar y rhew yn Arena Sheffield Utilita.
Cadarnhaodd swyddogion y crwner y byddai'r cwest i'w farwolaeth yn agor yn Sheffield ddydd Gwener am 09:00.
Mae Heddlu De Sir Efrog wedi cadarnhau eu bod yn ymchwilio i'r digwyddiad ond mae swyddogion wedi dweud y byddai'r ymchwiliad "yn cymryd peth amser."
Mae swyddogion wedi gwneud ymholiadau yn yr arena, yn ogystal ag edrych ar ddeunydd fideo o'r gwrthdrawiad a siarad gydag arbenigwyr.
Mae tîm y Nottingham Panthers wedi gwahodd cefnogwyr o unrhyw glwb i fynychu Arena Motorpoint Nottingham i ddathlu bywyd Mr Johnson ar 4 Tachwedd.