Newyddion S4C

M&S yn ymddiheuro bod hysbyseb Nadolig wedi achosi 'niwed anfwriadol'

02/11/2023
fflag palesteina.png

Mae M&S wedi ymddiheuro ar ôl cael eu cyhuddo o gyhoeddi llun ar Instagram o hetiau parti Nadolig yn lliwiau fflag Palesteina yn llosgi. 

Mae'r llun, sydd yn rhan o hysbyseb teledu'r cwmni, yn dangos hetiau coch, gwyrdd ac arian yn llosgi mewn lle tân.

Dywed M&S mai'r bwriad oedd "i ddangos yn chwareus nad yw rhai pobl yn mwynhau gwisgo hetiau papur Nadoligaidd."

Fe wnaeth y cwmni gael gwared o'r llun, gan ddweud fod yr hysbyseb wedi ei ffilmio ym mis Awst, cyn y rhyfel diweddaraf rhwng Israel a Hamas. 

Mae'r hysbyseb wedi ei seilio ar y ffaith y dylai pobl gael gwared ar draddodiadau Nadoligaidd nad ydyn nhw'n eu hoffi bellach.

Ychwanegodd y cwmni eu bod yn "ymddiheuro am unrhyw niwed anfwriadol a gafodd ei achosi."

Mae rhai wedi beirniadu'r llun ar y cyfryngau cymdeithasol gan honni fod yna debygrwydd rhwng lliwiau'r hetiau a lliwiau fflag Palesteina. 

Ond mae eraill wedi amddiffyn y cwmni gan ddweud bod yr hetiau mewn lliwiau traddodiadol Nadoligaidd. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.