Gwaith dur Tata: 'Diwrnod o weithredu' gan aelodau undeb yn wyneb diswyddiadau
Gwaith dur Tata: 'Diwrnod o weithredu' gan aelodau undeb yn wyneb diswyddiadau
Bydd aelodau undeb Unite sydd yn gweithio yng ngwaith dur Tata ym Mhort Talbot yn cynnal "diwrnod o weithredu" ddydd Iau, wrth iddyn nhw wynebu diswyddiadau.
Roedd aelodau bwrdd cwmni Tata yn cyfarfod yn India ddydd Mercher ac mae disgwyl cyhoeddiad am ddyfodol y safle ym Mhort Talbot yn fuan.
Y gred oedd y byddai cyhoeddiad yn cael ei wneud ddydd Mercher, ond fe gafodd ei ohirio wedi i'r cwmni ddweud nad oedd mewn sefyllfa i wneud cyhoeddiad ffurfiol am ddyfodol y safle eto.
Mae disgwyl i filoedd o swyddi gael eu colli yn y ffatri o dan gynlluniau i gynhyrchu dur trwy ddulliau mwy caredig i'r amgylchedd.
Fe allai hyd at 3,000 o weithwyr golli eu gwaith yno, gyda'r fath gam yn cael effaith andwyol ar y gadwyn gyflenwi a busnesau lleol eraill.
Bydd aelodau undeb Unite yn cynnal "diwrnod o weithredu" ddydd Iau er mwyn "codi ymwybyddiaeth a chefnogaeth i gynllun Unite i achub y diwydiant dur."
Deiseb
Dros yr wythnosau diwethaf mae deiseb Unite sy’n cefnogi 'Cynllun y Gweithwyr ar gyfer Dur' wedi denu mwy na 16,000 o lofnodion.
Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol Unite, Sharon Graham bod angen cefnogaeth gan wleidyddion hefyd os am achub swyddi ar y safle.
“Mae ymgyrch Cynllun Gweithwyr Unite ar gyfer Dur eisoes yn gweld canlyniadau.
"Ond er mwyn sicrhau bod gwaith dur Port Talbot yn dod yn arweinydd byd-eang ym maes cynhyrchu dur gwyrdd, gan gefnogi swyddi da sy’n talu’n dda yn awr ac am genedlaethau i ddod, mae angen inni alw ar wleidyddion i weithredu.
"Dyna pam mae Unite yn gofyn i bawb ym Mhort Talbot fynnu bod gwleidyddion o bob plaid yn ymrwymo i Gynllun y Gweithwyr Dur.”
Ymateb y Llywodraeth
Cyhoeddodd Llywodraeth y DU gytundeb gwerth £500 miliwn ym mis Medi mewn ymdrech i ddadgarboneiddio safle gwaith dur Tata Steel ym Mhort Talbot.
Ond dywedodd yr adran fusnes mai dim ond 5,000 o'r 8,000 o swyddi ar draws y DU y gallai'r cytundeb ei achub.
Bydd yn rhaid i Tata Steel ymrwymo i adeiladu ffwrneisi trydanol fel rhan o’r cytundeb, er mwyn symleiddio’r broses o greu dur. Byddai hyn hefyd yn ceisio mynd i’r afael ag allyriadau carbon y cwmni.
Dyma’r cyflogwr mwyaf yn y rhanbarth.
Dywedodd llefarydd ar ran gwaith dur TATA: “Rydym yn gobeithio dechrau ymgynghoriad ffurfiol gyda’n cynrychiolwry gweithwyr yn fuan.
“Yn y trafodaethau hyn, byddwn yn rhannu mwy o fanylion am ein cynigion i drosglwyddo at ddyfodol datgarboneiddio TATA Steel.
“Rydym wedi ymrwymo i wybodaeth ystyrlon a phroses ymgynghori gyda’n partneriaid a'r undeb llafur ar gyfer y cynigion hyn a byddwn yn ystyried yn ofalus unrhyw gynigion a gyflwynir.”
Llun: Ben Birchall/PA