Apêl wedi i lygod byw gael eu taflu i mewn i fwytai McDonald’s
Mae’r heddlu’n chwilio am ddau ddyn yng Nghanolbarth Lloegr ar ôl sawl digwyddiad o lygod byw yn cael eu taflu i mewn i fwytai McDonald’s.
Dywedodd Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr eu bod am siarad ag Amir Khan, 32, a Billal Hussain, 30, am y digwyddiadau yn Birmingham ddydd Llun a dydd Mawrth.
Y gred yw bod y llygod wedi eu taflu i mewn i'r bwytai mewn protest am y gwrthdaro yn Gaza.
Roedd fideo ar gyfryngau cymdeithasol ddydd Llun yn dangos cwsmeriaid mewn bwyty McDonald’s yn neidio mewn dychryn wrth i lygod oedd wedi eu paentio yn lliwiau baner Palesteina redeg ger eu traed, yn ôl y BBC.
Yn ôl adroddiadau, mae protestwyr o blaid Palesteina wedi galw am brotestiadau yn erbyn McDonald’s ar ôl i fwyty yn Israel roi prydau bwyd i filwyr Israel a gweithwyr diogelwch.
Dywedodd Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr fod y digwyddiadau’n cael eu trin fel achosion o niwsans cyhoeddus ac wedi apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am leoliad y ddau ddyn i rannu gwybodaeth.
'Siomedig'
Dywedodd llefarydd ar ran McDonald’s fod y cwmni’n “siomedig” gydag “adroddiadau anghywir ynglŷn â’n sefyllfa mewn ymateb i’r gwrthdaro yn y Dwyrain Canol”.
Ychwanegodd y llefarydd: “Nid yw Corfforaeth McDonald’s yn ariannu nac yn cefnogi unrhyw lywodraethau sy’n ymwneud â’r gwrthdaro hwn, a gwnaed unrhyw gamau gan ein partneriaid busnes yn lleol yn annibynnol, heb ganiatâd na chymeradwyaeth McDonald’s.
“Mae ein calonnau gyda’r holl gymunedau a theuluoedd y mae’r argyfwng hwn yn effeithio arnynt.
“Rydym yn casáu trais o unrhyw fath ac yn sefyll yn gadarn yn erbyn casineb, a byddwn bob amser yn agor ein drysau i bawb gyda balchder.”
Cafodd y llygod eu rhyddhau ym mwytai McDonald's yn Regina Drive, Perry Barr, tua 13.30 ddydd Mawrth, ac oddi ar Ffordd Watson Road, Nechells, tua 17.30 ddydd Llun.
Mae trydydd digwyddiad a ddigwyddodd ychydig cyn 21:00 ddydd Mawrth ar Ffordd Coventry Road, Small Heath, hefyd dan ymchwiliad ond efallai nad oes cysylltiad, meddai Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr.