Newyddion S4C

Ymosodiadau ar yrwyr bysiau ar Nos Calan Gaeaf yn 'peryglu bywyd'

01/11/2023
Difrod i ffenest bws First Bus

Bu'n rhaid i gwmni First Bus ohirio nifer o wasanaethau ddydd Mercher ar ôl achosion o fandaliaeth ar Nos Calan Gaeaf, gyda sawl achos o yrwyr yn dioddef ymosodiadau tra'r oedd eu cerbydau'n symud.

Cafodd o leiaf dau fws ym Mryste ac un yng Nghymru eu fandaleiddio nos Fawrth, gydag o leiaf dau ddigwyddiad yn ymwneud â gwrthrychau mawr yn cael eu taflu’n uniongyrchol at y gyrrwr. 

Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw anafiadau wedi'u hadrodd.

Roedd bws gwasanaeth 111 (Llanelli i Abertawe) yn Stryd y Castell, Casllwchwr, ger Abertawe yn darged i fandaliaid nos Fawrth.

Yn ogystal, cafodd bws gwasanaeth 6 (Port Tennant i Abertawe) ei atal am gyfnod wedi aelod o’r cyhoedd oedd mewn gwisg Calan Gaeaf sefyll o'i flaen. a'i rwystro. 

Image
Difrod i fws First Bus ym Mryste
Difrod i fws First Bus ym Mryste. Llun: First Bus

Ym Mryste, digwyddodd y ddau ymosodiad ar lwybr gwasanaeth 70 newydd y cwmni (Hengrove i Brifysgol Gorllewin Lloegr).

'Peryg'

Dywedodd Rob Pymm, Cyfarwyddwr Masnachol First Wales and West: “Mae’n gwbl warthus bod ein gyrwyr a’n cwsmeriaid wedi wynebu’r ymddygiad dirmygus hwn gan leiafrif o fandaliaid difeddwl.

“Mae’r delweddau rydyn ni wedi’u gweld o’n bysiau ers neithiwr yn siarad drostynt eu hunain; pwy fyddai yn eu iawn bwyll yn ystyried taflu gwrthrych trwm at fws oedd yn symud, heb sôn am y gyrrwr, gan eu peryglu nhw a phawb ar ei fwrdd.

“Yn anffodus, doedd gennym ni ddim dewis ond tynnu rhai llwybrau neithiwr, a heddiw mae ein teithwyr yn parhau i ddioddef tra bod y bysiau oddi ar y ffordd yn cael eu trwsio. Y cyfan y gallwn ei wneud yw ymddiheuro a rhoi sicrwydd i’r cyhoedd y byddwn yn ailddechrau gwasanaeth arferol cyn gynted â phosibl.”

Ychwanegodd Mr Pymm: “Rydym wedi riportio’r digwyddiadau i’r heddlu ac rydym yn adolygu ein teledu cylch cyfyng, a byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu gyda chymunedau lleol a’r heddlu i helpu i ddal y rhai sy’n gyfrifol. 

"Rydym wedi ymrwymo i amddiffyn ein gyrwyr a’n cwsmeriaid, hyd yn oed os yw hynny’n golygu atal gwasanaethau am resymau diogelwch.”

Mae'r cwmni yn annog teithwyr i wirio ap First Bus am y diweddariadau gwasanaeth diweddaraf.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.