
Rheolau coronafeirws wedi cael eu 'torri’n ddyddiol' gan swyddogion Llywodraeth y DU
Roedd rheolau coronafeirws yn cael eu "torri’n ddyddiol" gan swyddogion Llywodraeth y DU yn ystod y pandemig, gyda channoedd o weision sifil ac o bosib gweinidogion mewn perygl o gael eu dirwyo, medd cyn-was sifil.
Dywedodd Helen MacNamara, oedd yn ddirprwy ysgrifennydd y cabinet yn ystod y pandemig, ei bod yn difaru’r cyfarfodydd a gynhaliwyd yn Rhif 10 a Swyddfa’r Cabinet yn groes i roeliadau Covid-19 ar y pryd.
Dywedodd wrth Ymchwiliad Covid-19 y DU na ddylai’r digwyddiadau “fyth fod wedi digwydd” a “dylen ni fod wedi bod yn dilyn y rheolau”.
Mynnodd Ms MacNamara, a oedd â chyfrifoldeb am briodoldeb a moeseg, “yn bendant doeddwn i ddim yn parti yn Rhif 10, roeddwn i naill ai yn y gwaith neu gartref”, er ei bod yn un o’r bobl a gafodd ddirwyon am gyfarfodydd anghyfreithlon.
Wrth gynnal parti gadael i swyddog o Rif 10 Downing Street ar 18 Mehefin 2020 - pan roedd cyfarfodydd cymdeithasol o ddau neu fwy o bobl dan do wedi eu gwahardd - mynychodd am ran o'r noson a darparu peiriant carioci i'r digwyddiad.
Dywedodd y dylai fod cyfaddefiad wedi bod fod rheolau wedi'u torri - rhywbeth y gwnaeth Boris Johnson ei wadu dro ar ôl tro.
Torri'r gyfraith
Ychwanegodd, o ystyried bod yr heddlu wedi penderfynu bod digwyddiad pen-blwydd Mr Johnson ei hun yn Ystafell y Cabinet wedi torri'r gyfraith, yna byddai llawer o ddigwyddiadau eraill hefyd wedi croesi'r ffin honno.
Cafodd Mr Johnson ddirwy am fynychu'r digwyddiad dan sylw.

Dywedodd Helen MacNamara: “Rwy’n sicr bod yna gannoedd o weision sifil ac o bosibl weinidogion sydd, o edrych yn ôl, yn meddwl eu bod nhw ar ochr anghywir y llinell honno,” meddai wrth yr Ymchwiliad.
“Rwy’n mawr obeithio bod rhywfaint o sgwrs aeddfed wedi bod am hynny oherwydd mae’r math yna o beth, os nad yw’n cael sylw, yn niweidiol, mewn gwirionedd, mewn diwylliant.”
Awgrymodd fod rheolau'n cael eu torri'n ddyddiol yn Rhif 10 dim wrth gynnal busnes y llywodraeth.
Dywedodd Ms MacNamara fod diwylliant “gwenwynig” yn Rhif 10 ar y pryd, a bod staff oedd mewn perygl o “dorri” angen lle i dreulio amser gyda’i gilydd.
“Roeddwn i’n gwybod yn iawn ac yn meddwl ei bod hi’n bwysig mewn gwirionedd bod lle i – yn enwedig i'r swyddfa breifat – allu ymgynnull a threulio amser gyda’n gilydd.
“Roedd hynny’n gyfan gwbl oherwydd y math o ddiwylliant yr oedden nhw’n gweithio ynddo ac roeddwn i wir yn poeni am unigolion... yn dioddef, ac a oedden nhw’n mynd i fod yn iawn, a pha mor bwysig oedd eu cydweithwyr i’w gilydd.”