Cyhuddo CPD Pontypridd o dorri rheolau Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn dilyn ymchwiliad
Mae CPD Pontypridd yn wynebu cyhuddiadau disgyblu yn dilyn ymchwiliad gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC).
Roedd yr ymchwiliad yn ymwneud â statws cytundebol chwaraewyr y clwb.
Mae'r clwb wedi cael ei wahardd rhag cymryd rhan yng Nghwpan Cymru 2023/24 o ganlyniad i benderfyniad y Gymdeithas.
Cyhoeddodd CBDC 18 o gyhuddiadau yn erbyn y clwb am dorri nifer o reolau.
Mae’r cyhuddiadau’n ymwneud â thorri rheolau honedig a ddigwyddodd yn ystod tymhorau chwarae 2022/23 a 2023/24.
Mae rhain yn cynwys:
- Peidio â thalu arian sy'n ddyledus i chwaraewyr.
- Methiant i gydymffurfio â'u rhwymedigaethau cytundebol tuag at chwaraewyr.
- Methiant i gofrestru chwaraewyr yn gywir yn unol â Rheolau a Rheoliadau CBDC.
- Chwarae chwaraewyr sydd yn anghymwys.
Fe dorrwyd y rheolau yma yng nghystadlaethau y Cymru Premier JD a Chwpan Uwch Gynghrair Cymru yn ôl CBDC.
Mewn datganiad dywedodd CPD Pontypridd eu bod yn cymryd y mater "o ddifrif."
"Mae Pontypridd United yn bwriadu amddiffyn eu hun yn erbyn y cyhuddiadau.
"Fel clwb, rydym yn cymryd y mater hwn o ddifrif, gan ystyried effaith yr honiadau hyn a’r adroddiadau dilynol ar ein chwaraewyr, ein cefnogwyr, ein tîm o wirfoddolwyr a’n noddwyr.
"Rydym am sicrhau pawb sy'n gysylltiedig â Pontypridd United bod y clwb yn ymwneud yn llawn â dod â'r materion hyn i gasgliad cyflym."
Llun: Cymdeithas Bêl-droed Cymru