Newyddion S4C

Dulliau cyfathrebu â Gaza wedi'u hatal yng nghanol ymosodiadau pellach

Bomio Israel yn Gaza

Does dim modd cyfathrebu ag unrhyw un yn Gaza ac mae gwasanaethau'r rhyngrwyd wedi eu hatal yno, medd cwmni cyfathrebu Palesteinaidd Paltel.     

Mae byddin Israel wedi cadarnhau mai eu hawyrennau nhw ymosododd ar ardal Jabalia yng ngogledd Gaza ddydd Mawrth. Yn ôl yr Israeliaid, cafodd un o brif swyddogion Hamas ei ladd yn yr ymosodiad, gan hawlio fod hynny wedi chwalu "isadeiledd tanddaearol" Hamas.  

Dechreuodd ymosodiadau Israel ar Gaza ar 7 Hydref wedi i ymosodiad gan Hamas ladd 1,400 o bobl yn Israel. Cafodd o leiaf 239 eu cipio a'u cadw'n wystlon. 

Yn ôl y weinyddiaeth iechyd sy'n cael ei rhedeg gan Hamas mae mwy na 8,500 o bobl wedi eu lladd yn ystod ymosodiadau'r Israeliaid ar Gaza.    

Wrth i'r argyfwng dyngarol ddwysáu yn Gaza, mae yna awgrym y gallai'r ffin yn Rafah gael ei hagor ddydd Mercher, er mwyn caniatáu i Balesteinaid sydd wedi eu hanafu'n ddifrifol gael triniaeth yn Yr Aifft.  

Yn ôl Swyddfa Dramor y Deyrnas Unedig, mae adroddiadau y gallai'r ffin agor ar gyfer mynediad cyfyngedig, ond prin yw'r manylion. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.