
Storm Ciarán: Rhybuddion oren am wynt a glaw i rannau o Gymru
Mae rhybuddion melyn am wynt a glaw wedi eu cyhoeddi ar gyfer y rhan helaeth o Gymru ddydd Mercher, gyda rhybuddion oren wedi eu cyhoeddi ar gyfer naw o siroedd ddydd Iau.
Dywedodd y Swyddfa Dywydd y gallai gwyntoedd “cryfion iawn” o ganlyniad i Storm Ciarán “amharu ar deithio, cyfleusterau a gallai achosi rhywfaint o ddifrod strwythurol”.
Ychwanegodd y Swyddfa Dywydd bod "peryg i fywyd" o ganlyniad i falurion yn chwythu yn y gwynt.
Ddydd Mercher mae rhybudd melyn ar gyfer gwynt yn ne-orllewin Cymru ac ar hyd arfordir y de-ddwyrain o 21:00 hyd at 23:59 nos Iau.
Mae yna hefyd rybudd melyn am law trwm o 18:00 ddydd Mercher, ar draws de Cymru, Ceredigion a de Powys.
Mae Cyngor Sir Penfro wedi cyhoeddi eu bod yn gweithredu protocol brys oherwydd y tywydd, fe fydd y cyngor yn agor lloches argyfwng i bobl sy'n cysgu y tu allan o 19:00 nos Fercher tan 08:00 fore Iau.
Inline Tweet: https://twitter.com/S4Ctywydd/status/1719328619103682897
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi rhybuddion llifogydd hefyd yn y de orllewin.
Rhybudd Oren
Ddydd Iau, mae rhybudd oren ar gyfer y cyfnod rhwng 3:00 a 13:00 mewn naw o siroedd Cymru, gyda darogan y bydd Storm Ciarán yn chwythu ar gyflymder rhwng 75 ac 85mya ar hyd yr arfordir.
Dyma'r siroedd ar y rhestr rhybudd oren:
- Abertawe
- Caerdydd
- Castell-Nedd Port Talbot
- Ceredigion
- Bro Morgannwg
- Pen-y-bont ar Ogwr
- Rhondda Cynon Taf
- Sir Benfro
- Sir Gaerfyrddin
Hefyd ddydd Iau, mae rhybudd melyn am law yng ngogledd Cymru ac mae’r rhybuddion melyn am wynt a glaw yn parhau yn ne a chanolbarth Cymru.
Mae glaw trwm diweddar eisoes wedi achosi trafferthion ar y ffyrdd, yn enwedig yng ngorllewin Sir Gaerfyrddin, gyda Heddlu Dyfed-Powys yn cyhoeddi fore Mawrth fod sawl ffordd ar gau oherwydd llifogydd neu dirlithriad.

Mae'r ffordd rhwng Cynwyl Elfed a Threfechan i'r gogledd o Gaerfyrddin ar gau, ac un lôn wedi diflannu oherwydd tirlithriad fore Mawrth. Bu tirlithriad lai na thair milltir o'r safle adeg storm Callum yn 2018, a laddodd ddyn ifanc.
Prif Lun: Nadezna Mandhari