Newyddion S4C

Cymru yn colli yn erbyn Denmarc yng Nghynghrair y Cenhedloedd Menywod UEFA

31/10/2023
Denmarc v Cymru

Mae Cymru wedi colli o 2-1 yn erbyn Denmarc yng Nghynghrair y Cenhedloedd Merched UEFA.

Mae tîm Gemma Grainger wedi colli eu pedair gêm yn y gystadleuaeth gyda dwy gêm yn erbyn Yr Almaen a Gwlad yr Iâ yn weddill yng Nghynghrair A.

Bydd y ddwy gêm honno yn cael eu chwarae ym mis Rhagfyr, ac os nad ydynt yn ennill un ohonynt byddant yn disgyn i Gynghrair B.

Roedd yr hanner awr cyntaf yn weddol agos, er bod gan Denmarc y rhan fwyaf o'r meddiant gan roi pwysau ar amddiffyn Cymru.

Ond fe ddaeth y gol cyntaf wedi 27 munud wrth i Amalie Vangsgaard benio'r bêl o groesiad gan Sofie Bredgaard yng nghwrt chwech Cymru heibio Olivia Clark, gôl haeddiannol yn dilyn cyfnod o bwysau gan Denmarc

Wedi iddi greu’r gôl gyntaf, sgoriodd Sofie Bredgaard yr ail ar ôl i Angharad James golli meddiant ar ochr y cwrt cosbi a fe sgoriodd Bredgaard yn ochr ucha’r rhwyd.

2-0 oedd y sgor ar yr egwyl a her fawr i Gymru yn yr ail hanner.

Cymru sgoriodd unig gôl yr ail hanner, gyda Jess Fishlock yn rhwydo gyda chic isel wedi 72 o funudau.   

Daeth dau newid i dîm Gemma Grainger wrth i Gymru geisio unioni'r sgôr gyda Lily Woodham a Ffion Morgan yn gadael y cae ac Elise Hughes ac Ella Powell yn camu i'r maes yn eu lle.

Ond doedd hynny ddim yn ddigon i sicrhau gêm gyfartal. 

Roedd hwn yn well perfformiad gan Gymru ar ôl colli'n drwm yn erbyn Denmarc o 5-1 fis Medi. 

Llun: Cymdeithas Bêl-droed Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.