Pennaeth pêl-droed Azerbaijan yn tawelu ofnau'r Wal Goch am Covid-19

Mae Ysgrifennydd Cyffredinol Cymdeithas Bêl-droed Azerbaijan wedi dweud ei fod yn hyderus y bydd modd i gefnogwyr Cymru sydd yn teithio i Baku fwynhau Euro 2020 yn ddiogel, er gwaethaf y pandemig.
Yn ôl The Independent, mae disgwyl i oddeutu 2,000 o gefnogwyr tîm pêl-droed Cymru gyrraedd y brifddinas i gefnogi'r garfan yn erbyn y Swistir a Thwrci.
Daw hyn ar ôl i Lywodraeth Cymru a Chymdeithas Bêl-droed Cymru annog pobl i beidio â mentro i Azerbaijan, sydd ar 'restr oren' teithio'r DU.
Mae Elkhan Mammadov wedi dweud bydd modd i gefnogwyr fynd i fwytai, tafarndai a theithiau diwylliannol o gwmpas y ddinas, a hynny mewn modd diogel.
Darllenwch y stori'n llawn yma.
Llun: Kremlin.ru