
'Euogrwydd yn her ddyddiol i rieni plant awtistig'
'Euogrwydd yn her ddyddiol i rieni plant awtistig'
"Dydio ddim be nes i feddwl fysa bod yn riant," meddai mam i blentyn sydd ag awtistiaeth sydd wedi siarad yn agored am deimlo hunan-euogrwydd yn sgil yr heriau sy’n wynebu teuluoedd.
Mae Leian Roberts o Benrhyndeudraeth yng Ngwynedd yn fam i ddau o fechgyn, un sydd ag awtistiaeth dwys.
“Mae Twm yn saith oed ac wedi cael ei diagnosis wan ers tua dwy flynedd efo ASD, SPD ac LD sef autistic spectrum disorder, sensory proses disorder a learning disorder.
“Ar ben hynny mae o yn non-verbal, so dydi Twm ddim yn siarad. Mae o yn medru neud synau ond dydi o ddim yn cyfathrebu o gwbl trwy iaith llu.”
'Euogrwydd'
Mae Ms Roberts yn dweud fod cael “mum guilt” yn rhywbeth mae hi’n teimlo yn aml.
“Mae o yn anodd achos dwi yn fam i ddau o blant, felly ma’ gennai anghenion Owi, ac un o heriau fi’n bersonol ydi os dwi isio mynd ar day out ar ddydd Sadwrn dydi jyst mynd i soft play ddim yn opsiwn, achos ma’ anghenion y ddau mor wahanol.
“A ti’n cael y sort of mum guilt mwy wedyn bo fi ddim yn rhoi digon i Owi neu i dy blentyn arall, ma’ hunan anodd.”

Mae awtistiaeth yn anabledd datblygiadol gydol oes sy'n effeithio ar sut mae pobl yn cyfathrebu ac yn rhyngweithio â'r byd.
Mae mwy nag un o bob 100 o bobl ar y sbectrwm awtistiaeth ac mae tua 700,000 o oedolion a phlant awtistig yn y DU yn ôl Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth.
“O ddydd i ddydd, dydi Twm ddim yn medru deud os ydi o mewn poen, os dio isio mynd i'r toiled, be mae o isio mae o. Mae Twm yn dueddol o neud hand leading so man cymryd fy llaw i fynd a fi i be bynnag mae o isio," meddai Ms Roberts.
“Dydi Twm ddim yn dalld y gair ‘na’, dydi ‘na’ ddim yn dod i fywyd Twm, mae o yn ffeindio'r broses yn anodd.”
'Heriau'
Yn ôl Ms Roberts mae’n bwysig bod rhieni yn cydnabod yr heriau yma.
“Dwi meddwl os gen ti blentyn efo additional needs mae o yn mind blowing a dydi o ddim be nes i feddwl bysa bod yn rhiant.
“Ti’n planio cael plant a planio neud pethau spontaneous ar benwythnosau fath a fyswn i licio mynd a nhw i gampio neu gael bag o chips ar y traeth ond dydi o ddim yn bosib.”

Mae Ms Roberts yn credu nad yw cymdeithas wedi addasu yn ddigonol i gwrdd â gofynion plant niwro-nodweddiadol.
“Dwi'n meddwl be sydd wedi digwydd ydi mae gen ti dy ysgolion ar gyfer plant fel Twm sy’n mynd i Hafod Lôn, sydd yn hollol amazing ac mae gen ti dy mainstream school, ond dydi’r ysgolion yma ddim yn cymysgu ddim mwy, so dydi plant normal neu neuro-typical ddim yn cymysgu efo plant sydd efo anghenion felly maen nhw’n tyfu i fod yn oedolion ddim yn gwybod sut i ddelio efo plant neu bobl sydd efo anghenion.
“Mae jyst angen y llefydd yma, caffis, tafarndai, gwasanaethau cymunedol i wneud reasonable adjustments i accomidatio ni.
“Mae o yn teimlo bod sesiynau yn cael ei gwneud mewn llefydd i dicio bocsys yn hytrach nag er lles y plant ‘ma- dydi nhw ddim yn neud o yn bersonol i blant efo anghenion.”
'Cefnogaeth'
Mae Leian wedi rhoi'r gorau i'w gwaith fel nyrs metron er mwyn gofalu am Twm, ond mae hi’n dweud nad yw pawb mewn sefyllfa i roi'r un gefnogaeth.
“Mae lot o blant sydd efo anghenion, weithia mae eu rhieni nhw efo anghenion a dydyn nhw ddim yn gwybod beth ydi ei hawliau nhw a be ma’ nhw’n intitled i a ma’r her jyst yn overwhelming.
Mae hi'n dweud iddi orfod "cwffio" yn llwyddiannus am lwfans ar gyfer gofal Twm, ac yn poeni nad yw pawb yn y sefyllfa i wneud hynny.
Er yr heriau, mae Twm yn fachgen hapus iawn yn ôl Leian.
“Trampoline ydi ei betha fo a mynd yn y car am spin am oriau a nofio, mae o yn blentyn mor hapus a dwi mor ddiolchgar am huna, weithia sa’n neis bod yn Byd Twm.”