3,000 o rywogaethau prin 'mewn pum lleoliad neu lai ledled Cymru'
Mae astudiaeth newydd wedi datgelu bod bron i 3,000 o rywogaethau yn bodoli mewn pum lleoliad neu lai yn unig ledled Cymru.
Ers y flwyddyn 2000, mae 11 o rywogaethau eisoes wedi diflannu yng Nghymru, gan gynnwys y Turtur a'r gwyfyn Rhisgl y Morfa.
Mae'r adroddiad 'Rhywogaethau mewn Perygl' yn golygu mai Cymru yw'r wlad gyntaf yn y DU i nodi ei rhywogaethau prinnaf yn seiliedig ar ba mor gyfyngedig yn ddaearyddol ydyn nhw, yn hytrach na defnyddio dulliau asesu traddodiadol.
Mae'r adroddiad newydd yn nodi rhywogaethau sydd wedi dirywio bron i ddifodiant, gan gynnwys y gragen las Conventus conventus, y mwsogl Tomentypnum nitens a’r cen Cetraria sepincola.
Mae adroddiad Cyfoeth Naturiol Cymru yn tynnu sylw at y ffaith bod bron i hanner y 2,955 o rywogaethau a nodwyd yng Nghymru wedi'u cyfyngu i leoliadau unigol.
Mae hyn yn tanlinellu'r angen am "weithredu ar frys i atal a gwrthdroi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth, ac i adeiladu gwytnwch ein hecosystemau" meddai Cyfoeth Naturiol Cymru.
Mae gan Gymru 56 o rywogaethau nad ydynt i'w cael yn unman arall yn y DU.
'Bygythiad'
Dywedodd Mary Lewis, Pennaeth Polisi Rheoli Adnoddau Naturiol Cyfoeth Naturiol Cymru: "Mae'r adroddiad hwn yn ei gwneud hi'n glir nad ydym yn unig 'mewn perygl' o weld rhywogaethau yn diflannu yng Nghymru, mae eisoes yn digwydd. Fel gwlad, mae angen i ni gymryd y bygythiad o ddifrif.
"Er gwaethaf y realiti anodd hwn, mae'n galonogol bod modd gwneud llawer i amddiffyn y rhywogaethau hyn trwy fuddsoddi cymedrol a gwneud newidiadau cymharol fach i'r ffordd yr ydym yn rheoli ein tirweddau.
"Mae'r newidiadau yma’n aml yn ymwneud ag addasu pan fydd llystyfiant yn cael ei dorri, rheoli twf llystyfiant diangen, neu wneud yn siŵr bod y patrymau pori cywir yn eu lle. Mae'r adroddiad Rhywogaethau mewn Perygl yn rhoi'r fframwaith i ni wneud y newidiadau hynny.
"Gyda thri chwarter y rhywogaethau hyn eisoes ar safleoedd gwarchodedig, mae gennym y fframwaith i weithredu."
Mae'r adroddiad yn categoreiddio pob rhywogaeth yn ôl pam ei bod yn cael ei hystyried mewn perygl - boed hynny oherwydd dirywiad, prinder naturiol, tan-gofnodi, bod ar gyrion ei amrediad, neu fod yn rhywogaeth sydd wedi lledaenu i Gymru yn ddiweddar.
Mae'r adroddiad wedyn yn asesu pob rhywogaeth yn erbyn 17 o fygythiadau allweddol gan gynnwys colli cynefinoedd a newid yn yr hinsawdd.