Osian Pryce yn ennill Rali Roger Albert Clark mewn modd syfrdanol
Mae Osian Pryce wedi ennill Rali Roger Albert Clark 2025 mewn modd syfrdanol – gan arwain rali hiraf a chaletaf y DU o'r dechrau i'r diwedd.
Fe lwyddodd i arwain pob un ond un o'r cymalau, a hynny mewn amodau gaeafol heriol i ennill o 2 funud 39 eiliad yn ei Ford Escort RS1800 Mk2.
Ar ôl dod yn agos at fuddugoliaeth yn 2021 a 2023, y gyrrwr 32 oed o Fachynlleth oedd seren y digwyddiad pum niwrnod o hyd sy'n cael ei gynnal pob dwy flynedd.
Roedd hefyd yn gamp wych i gyd-yrrwr Osian, Dale Furniss, wrth i'r dyn o Lanfyllin ennill y digwyddiad ar ei ymgais gyntaf.
Yn dilyn y seremoni agoriadol yng Nghaerfyrddin, cymerodd Osian yr awenau gyda'r amser cyflymaf ar y cymal agoriadol gan orffen y diwrnod cyntaf gyda mantais o 17 eiliad.
“Ennill Rali’r RAC, goresgyn rhai o’r amodau mwyaf heriol rydw i erioed wedi cystadlu ynddynt ac arwain o’r dechrau i’r diwedd bron, yw’r hyn y mae breuddwydion wedi eu gwneud ohonynt,” meddai Osian.
“Mae’r fuddugoliaeth hon wedi ei chreu ers pedair blynedd. Rydw i wedi dod yn agos at ennill Rali’r RAC ddwywaith... a diolch yn fawr iawn i Dale a thîm Wales Motorsport.
“Daeth y prosiect hwn at ei gilydd tua 12 mis yn ôl. Rydw i a Wales Motorsport wedi cael rhywfaint o anlwc ar y digwyddiad hwn o’r blaen, felly fe wnaethon ni ymuno â’n gilydd am y tro cyntaf eleni i gyfuno ein holl brofiad blaenorol ac yn y pen draw gyflawni’n union yr hyn yr oeddem wedi bwriadu ei wneud."
Lluniau gan Nigel Pratt, Black Mountains Media