Trais yn erbyn menywod: Dynion angen 'gweld eu hunain fel rhan o'r ateb'
Mae grŵp o ymgyrchwyr o Gaerdydd wedi dweud y dylai dynion “fod yn well am weld eu hunain fel rhan o'r ateb” wrth ddod â thrais yn erbyn menywod a merched i ben.
A hithau’n Ddiwrnod y Rhuban Gwyn, mae dydd Mawrth yn nodi dechrau dros bythefnos o godi ymwybyddiaeth am gamdriniaeth yn erbyn menywod.
Fe ddaw galwadau’r grŵp Llais Yn Erbyn Trais wrth i Lywodraeth Cymru gyhoeddi buddsoddiad o £2.4 miliwn er mwyn gwella mynediad at gwnsela arbenigol i bobl sydd wedi dioddef camdriniaeth.
Mae Manon Parry yn un o sylfaenwyr y grŵp yn y brifddinas. Er ei bod yn croesawu'r buddsoddiad, mae hi’n dweud bod angen i ddynion wneud mwy o ymdrech i fynd i’r afael ag ymddygiad treisgar tuag at fenywod o fewn eu grwpiau o ffrindiau eu hunain.
“Mae angen mwy o sgyrsiau o fewn grwpiau cyfeillgarwch dynion, i alw allan misogyny a cham-drin menywod pan fyddant yn ei weld,” meddai wrth Newyddion S4C.
“Mae angen i ddynion fod yn well am weld eu hunain fel rhan o'r ateb i ddod â thrais dynion yn erbyn menywod a merched i ben.”
'Blinedig a rhwystredig'
Cafodd Llais Yn Erbyn Trais ei sefydlu gan Manon Parry, Ceridwen Eirlys, Saskia Peters, Minnie Rae, Mali Cain a Morgan Cai yn 2023.
Roedd y grŵp o ffrindiau yn “flinedig, yn rhwystredig ac yn grac” am y gamdriniaeth y mae menywod yn eu hwynebu ar nosweithiau allan.
“Ni’n teimlo'n gryf bod gan fenywod yr hawl i deimlo'n ddiogel ar nosweithiau allan,” esboniodd Manon.
“Gan ein bod ni fel ffrindiau yn caru cerddoriaeth a joio mynd i gigs rydym yn cynnal digwyddiadau saff a chyffrous i fenywod sy’n cynnwys bands a crefftwyr lleol.”
Mae’r grŵp yn codi arian ar gyfer elusennau er lles diogelwch menywod, gan gynnwys Women’s Aid a Refuge, gyda’u digwyddiadau.
Maen nhw yn croesawu buddsoddiad y llywodraeth, fydd yn mynd tuag at yr elusennau Llwybrau Newydd, Cerrig Camu, Canolfan Gymorth Gogledd Cymru i Oroeswyr Treisio a Cham-drin Rhywiol a Cymorth i Fenywod - Cyfannol.
Y nod yw sicrhau mwy o apwyntiadau, recriwtio cwnselwyr arbenigol a darparu gofal amserol sy'n ystyriol o drawma i oroeswyr ledled Cymru.
'Y lle mwyaf diogel'
Fe allai derbyn cymorth arbenigol yn dilyn camdriniaeth neu drais rhywiol helpu pobl i fynd i’r afael ag unrhyw symptomau hirdymor, gan gynnwys gorbryder, iselder a straen ôl-drawmatig.
Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol elusen Llwybrau Newydd ei fod yn “hollbwysig” darparu mynediad at wasanaethau therapi arbenigol cyn gynted â phosibl wedi camdriniaeth o’r fath.
“Mae llawer o'n cleientiaid wedi'u trawmateiddio gan eu profiadau,” meddai Jackie Stamp.
“Bydd yr arian hwn yn galluogi gwasanaethau trais rhywiol arbenigol fel ein rhai ni i recriwtio a hyfforddi mwy o gynghorwyr i gwrdd â'r galw uchel presennol am ein gwasanaethau, a thrwy wneud hynny bydd yn newid bywydau llawer o bobl."
Dywedodd Jane Hutt, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol Llywodraeth Cymru: "Ddeng mlynedd ar ôl cyflwyno Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol 2015, deddfwriaeth a oedd yn garreg filltir, rydym yn canolbwyntio ar sicrhau mai Cymru yw'r lle mwyaf diogel i fod yn fenyw neu'n ferch.
"Fodd bynnag, rydym yn gwybod bod trais rhywiol yn realiti i ormod o fenywod, dynion a phlant yng Nghymru. Rwyf am wneud popeth a allaf i sicrhau eu bod yn gallu cael mynediad i'r cymorth cywir cyn gynted â phosibl fel y gallant ddechrau ar eu taith i wella ar unwaith.”