Newyddion S4C

Gwahardd cŵn XL Bully yng Nghymru a Lloegr o ddiwedd y flwyddyn

31/10/2023

Gwahardd cŵn XL Bully yng Nghymru a Lloegr o ddiwedd y flwyddyn

Bydd yn drosedd i fod yn berchen ar XL Bully o 1 Chwefror 2024 oni bai bod gan berchnogion yng Nghymru a Lloegr ffurflen sy'n eu heithrio. 

Mae cŵn XL Bully bellach yn cael eu hychwanegu at y rhestr o gŵn sydd wedi eu gwahardd yn swyddogol gan Lywodraeth y DU ac mae canllawiau llym wedi'u cyhoeddi ar gyfer perchnogion presennol. 

O 31 Rhagfyr 2023 felly, bydd hi'n anghyfreithlon i werthu, hysbysebu, gadael neu ganiatáu i gi XL grwydro, medd Llywodraeth y DU.   

Bydd terfyn amser hirach i berchnogion presennol sicrhau bod y cŵn yn cael eu hysbaddu a bod ganddyn nhw ficrosglodyn. 

Bydd angen sicrhau hefyd fod gan y cŵn fwsel dros eu cegau ac ar dennyn mewn man cyhoeddus.  

Daw'r gwaharddiad yn dilyn nifer o ymosodiadau gan y  brîd, er bod perchnogion yn mynnu bod y cŵn yn anifeiliaid anwes hoffus.

Os ydy'r ci yn iau na blwydd oed ar 31 Ionawr 2024, rhaid iddo gael ei ysbaddu erbyn 31 Rhagfyr y flwyddyn nesaf. Os yw'r ci yn hŷn na blwydd oed ar 31 Ionawr 2024, rhaid iddo gael ei ysbaddu erbyn 30 Mehefin.

'Pwysig'

Cadarnhaodd yr Ysgrifennydd Amgylcheddol Therese Coffey y byddai'r XL Bully yn cael ei ychwanegu at y Ddeddf Cŵn Peryglus.

Dywedodd fod gweinidogion wedi cymryd “camau cyflym a phendant i amddiffyn y cyhoedd rhag ymosodiadau gan gŵn”.

“Bydd yn drosedd cyn bo hir i fridio, gwerthu, hysbysebu, neu ailgartrefu ci tebyg i XL Bully, ac mae’n rhaid eu cadw ar dennyn a mwsel dros eu cegau  mewn man cyhoeddus hefyd. Maes o law bydd hefyd yn anghyfreithlon bod yn berchen ar un o'r cŵn hyn heb eithriad.

“Fe fyddwn ni'n parhau i weithio’n agos gyda’r heddlu, arbenigwyr cŵn a milfeddygon, a grwpiau lles anifeiliaid, ar y mesurau pwysig hyn.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.