Newyddion S4C

Storm Ciarán: Cyhoeddi rhybudd oren wrth i law trwm achosi trafferthion yn Sir Gâr

31/10/2023

Storm Ciarán: Cyhoeddi rhybudd oren wrth i law trwm achosi trafferthion yn Sir Gâr

Mae rhybudd tywydd oren wedi ei gyhoeddi ar gyfer rhan o arfordir Cymru wrth i Storm Ciarán agosáu.

Mae'r rhybudd tywydd am wynt wedi ei gyhoeddi ar gyfer rhannau o arfordir gorllewinol Sir Benfro rhwng 03.00 a 13.00 ddydd Iau.

Mae glaw trwm eisoes wedi achosi trafferthion ar y ffyrdd, yn enwedig yng ngorllewin Sir Gaerfyrddin, gyda Heddlu Dyfed-Powys yn cyhoeddi fore Mawrth fod sawl ffordd ar gau oherwydd llifogydd neu dirlithriad. 

Mae'r ffordd rhwng Cynwyl Elfed a Threfechan i'r gogledd o Gaerfyrddin ar gau, ac un lôn wedi diflannu oherwydd tirlithriad fore Mawrth. Bu tirlithriad lai na thair milltir o'r safle adeg storm Callum yn 2018, a laddodd ddyn ifanc.   

Nos Lun, bu'n rhaid cau yr A40 rhwng Sanclêr a Chaerfyrddin am gyfnod, oherwydd fod llifogydd ar y ffordd ddeuol tua'r dwyrain.    

Mae rhybuddion melyn am wynt a glaw eisoes wedi eu cyhoeddi ar gyfer y rhan helaeth o Gymru ddydd Mercher a dydd Iau.

Dywedodd y Swyddfa Dywydd y gallai gwyntoedd “cryf iawn” o ganlyniad i Storm Ciarán “amharu ar deithio, cyfleusterau a gallai achosi rhywfaint o ddifrod strwythurol”.

Ddydd Mercher mae rhybudd melyn ar gyfer gwynt yn ne-orllewin Cymru ac ar hyd arfordir y de-ddwyrain.

Mae yna hefyd rhybudd melyn am law trwm yr un pryd ar draws de Cymru, Ceredigion a de Powys.

Ddydd Iau mae rhybudd melyn am law yng ngogledd Cymru ac mae’r rhybuddion melyn am wynt a glaw yn parhau ar hyd yr un ffiniau yn ne a chanolbarth Cymru.

‘Tonnau mawr’

Dywedodd y Swyddfa Dywydd fod yna ansicrwydd o hyd am “union lwybr Storm Ciarán”. 

“Yn ystod oriau mân y bore dydd Iau fe fydd gwyntoedd o'r gogledd-orllewin yn chwythu ar draws Ynysoedd Sili a rhannau o dde orllewin Lloegr a Chymru,” medden nhw.

“Bydd yr hyrddiau'n debygol o gyrraedd 70-80 mya mewn rhai ardaloedd arfordirol ac mewn rhai mannau arfordirol gall fod yn fwy na 85 mya. 

“Mae hyrddiau o 65-75 mya yn bosibl mewn ardaloedd mewndirol. Mae’n bosib y bydd tonnau mawr iawn mewn ardaloedd arfordirol.

“Bydd y gwynt yn dechrau lleddfu'n raddol o ganol y bore.”

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.