Newyddion S4C

Sêr Friends 'wedi eu llorio' yn dilyn marwolaeth Matthew Perry

31/10/2023
friends.png

Mae sêr y gyfres gomedi Friends yn dweud eu bod nhw 'wedi eu llorio' yn dilyn marwolaeth Matthew Perry. 

Cafodd Mr Perry ei ddarganfod yn farw yn ei gartref yn Los Angeles ddydd Sadwrn yn 54 oed.

Fe wnaeth Jennifer Aniston, Courteney Cox, Matt LeBlanc, David Schwimmer a Lisa Kudrow serennu gyda Mr Perry, oedd yn chwarae rôl Chandler Bing, yn y gyfres boblogaidd rhwng 1994 a 2004.

Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd y pump: "Roeddem ni'n fwy na dim ond cyd-actorion. Rydym ni'n deulu. 

"Mae yna gymaint i'w ddweud, ond ar hyn o bryd, rydym ni am gymryd amser i alaru a phrosesu'r golled annirnadwy yma. Mewn amser, byddwn ni'n dweud mwy, os a phan ydyn ni'n gallu. 

"Am y tro, mae ein meddyliau a'n cariad gyda theulu Matty, ei ffrindiau a phawb oedd yn ei garu o gwmpas y byd."

Mae rhagor o fanylion wedi eu rhyddhau am sut y cafodd Mr Perry ei ddarganfod.

Yn ôl datganiad gan Wasanaeth Tân Los Angeles a gafodd ei ddyfynnu yn yr LA Times, bu farw Mr Perry cyn i'r gwasanaethau brys cyntaf gyrraedd. 

Dywedodd y Capten Erik Scott fod person wedi dod â phen yr actor uwchben y dŵr cyn i ddiffoddwyr tân gyrraedd.

"Fe wnaeth diffoddwyr tân dynnu'r dioddefwr allan o'r jacuzzi a gwneud asesiad meddygol cyflym i ddarganfod ei fod wedi marw," medden nhw. 

Does dim sicrwydd eto sut y bu i'r actor farw gyda chanlyniadau cyntaf prawf post-mortem ddydd Llun yn “amhendant”.

Enwebwyd Perry am wobr Emmy am ei rôl fel Chandler Bing yn Friends.

Yn ystod ei amser ar y gyfres, cafodd drafferthion iechyd gyda dibyniaeth a gorbryder. Fe ddisgrifiodd ei broblemau yn ei hunangofiant Friends, Lovers, and the Big Terrible Thing a gyhoeddwyd yn 2022.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.