Prif Weinidog Israel Benjamin Netanyahu yn gwrthod galwadau am gadoediad yn Gaza
Mae Prif Weinidog Israel Benjamin Netanyahu wedi gwrthod galwadau am gadoediad yn Gaza, gan ddweud y byddai hyn yn golygu "ildio i Hamas."
Wrth siarad yn Tel Aviv, dywedodd Mr Netanyahu fod y "Beibl yn dweud bod yna amser am heddwch ac amser am ryfel.
"Mae hwn yn amser ar gyfer rhyfel."
Ychwanegodd: "Mae hyn yn drobwynt i arweinwyr a chenhedloedd, mae'n amser i ni gyd benderfynu os ydyn ni'n barod i frwydro am ddyfodol o obaith ac addewid, neu ildio i ormes a braw.
"Bydd Israel yn brwydro."
Dywedodd hefyd bod angen gwahaniaethu rhwng "llofruddio pobl ddiniwed a'r rhai anfwriadol sy'n cyd-fynd â phob rhyfel cyfreithlon."
Yn y cyfamser, mae asiantaethau cymorth y Cenhedloedd Unedig wedi pwysleisio eu galwadau am gadoediad dyngarol mewn cyfarfod brys o'r Cyngor Diogelwch.
Mae Unicef wedi dweud fod y sefyllfa yn Gaza yn gwaethygu fesul awr, ac mai "gwir gost y datblygiad diweddaraf hwn fydd bywydau plant."
Dywedodd byddin Israel eu bod wedi achub milwr yn Gaza a gafodd ei ddal yn wystl gan Hamas ar 7 Hydref.
Mae Israel wedi bod yn bomio Gaza ers ymosodiadau Hamas ar 7 Hydref, sydd wedi lladd 1,400 o bobl gydag o leiaf 239 wedi eu cymryd fel gwystlon.
Mae gweinyddiaeth iechyd Gaza, sy'n cael ei rhedeg gan Hamas, yn dweud bod mwy na 8,000 o bobl wedi cael eu lladd ers i Israel ddechrau eu bomio.