Disgyblu dau Aelod Seneddol am sylwadau ar y rhyfel rhwng Israel a Hamas
Mae dau Aelod Seneddol yn San Steffan wedi eu disgyblu am sylwadau ar y rhyfel rhwng Israel a Hamas.
Cafodd Andy McDonald ei wahardd fel AS y Blaid Lafur yn dilyn sylwadau mewn rali o blaid Palesteina.
Dywedodd: "Ni fyddwn yn gorffwys tan fod gennym gyfiawnder. Tan fod pawb, pobl Israel a Palesteina, rhwng y tir a'r môr yn byw yn heddychlon.
Ychwanegodd "rhyddhewch Balesteina".
Dywedodd Downing Street ei bod hi "ddim yn dderbyniol" i bobl ddweud "o'r afon i'r môr" - ymadrodd sy'n cyfeirio at y tir rhwng Afon Iorddonen a Môr y Canoldir - gan ei fod yn "sarhaus" i lawer.
Roedd gan Andy McDonald rolau gweinidogaethol cysgodol amrywiol o dan y cyn arweinydd Llafur Jeremy Corbyn, a gwasanaethodd o dan arweinyddiaeth Syr Keir Starmer cyn ymddiswyddo fel gweinidog yn 2021 oherwydd anghytundeb polisi gyda’r arweinyddiaeth.
Bydd yn Aelod Seneddol Annibynnol tra bo'r Blaid Lafur yn cynal ymchwiliad.
Mae AS Ceidwadol hefyd wedi cael ei ddiswyddo o’i rôl yn y llywodraeth ar ôl galw am gadoediad yn Gaza.
Mae Paul Bristow wedi cael cais i adael ei swydd fel ysgrifennydd preifat seneddol (PPS) ar ôl ysgrifennu at y Prif Weinidog Rishi Sunak i annog cadoediad “parhaol” yn yr ymladd rhwng Israel a Hamas.
Cafodd ei ddiswyddo am sylwadau “nad ydyn nhw’n gyson ag egwyddorion cyfrifoldeb ar y cyd,” meddai llefarydd ar ran Rhif 10.
Dywedodd Aelod Seneddol Peterborough ei fod yn deall penderfyniad Rishi Sunak.
Wrth i'r ymladd barhau yn y Dwyrain Canol mae lluoedd Israel yn dweud eu bod nhw wedi rhyddhau milwr benywaidd gafodd ei chipio yn ystod ymosodiadau Hamas ar dde Israel dair wythnos yn ôl.
Daw hyn ar ôl i Hamas ryddhau fideo yn dangos tair o'u gwystlon, gydag un yn apelio ar brif weinidog Israel, Bemjamin Netanyahu i gytuno i gadoediad.
Mae ymosodiadau byddin Israel yn ymestyn yn Gaza gyda thanc wedi'i weld ar y priffyrdd sy'n cysylltu'r de a'r gogledd.