Newyddion S4C

Menywod yn ymgynnull i redeg yn Llundain i dynnu sylw at ‘gyrffiw’ ymarfer corff awyr agored

30/10/2023
merched yn rhedeg

Mae nifer o fenywod wedi ymgynnull yng nghanol Llundain fel rhan o ymgyrch i dynnu sylw at yr heriau wrth ymarfer corff yn yr awyr agored yn ystod misoedd y gaeaf.

Daw hyn wrth i arolwg barn awgrymu bod bron i ddwy draean o fenywod yn poeni am y risg o aflonyddu rhywiol neu ymddygiad bygythiol tra'n gwneud ymarfer corff yn yr awyr agored wrth iddi dywyllu'n gynnar.

Cafodd 1,000 o fenywod ledled y DU eu holi fis diwethaf ar gyfer yr ymgyrch This Girl Can.

Yn ôl y gwaith ymchwil, doedd bron i hanner y rhai a gafodd eu holi (48%) ddim yn hoffi mynd allan i wneud ymarfer corff y tu allan, ar ôl iddi dywyllu. Roedd 46% yn newid eu harferion neu arferion ymarfer corff awyr agored wrth i'r nosweithiau dywyllu.

Iechyd meddyliol a chorfforol

Bwriad y rhediad o amgylch San Steffan nos Lun yw annog  sgwrs am y pwnc, meddai ymgyrchwyr.

Dywedodd Kate Dale, cyfarwyddwr marchnata yn Sport England a This Girl Can bod y penderfyniad i beidio gwneud ymarfer corff oherwydd y pryderon hyn yn cael effaith ar les meddyliol a chorfforol.

“Wrth i oriau golau dydd gwtogi, mae llawer o fenywod yn dewis aros y tu mewn oherwydd pryderon diogelwch, gan arwain at lai o weithgarwch corfforol," meddai.

"Mae effaith hyn ar iechyd a lles cyffredinol menywod yn bryder enfawr ac mae angen sylw ac ymyrraeth.

“Dyw hi ddim yn iawn ein bod ni’n teimlo bod gennym ni lai o opsiynau i wneud ymarfer corff am bron i hanner y flwyddyn. 

A hyd yn oed os ydym yn mynd allan er gwaethaf yr ofnau hyn, mae'n anoddach cael y llawenydd, y rhyddid a'r hyder y gall gweithgareddau corfforol eu cynnig os ydych chi'n edrych dros eich ysgwydd yn gyson neu'n monitro'r hyn sydd o'ch cwmpas.

“Mae’n rhwystr emosiynol arall, rhywbeth arall y mae’n rhaid i ni ei reoli os ydym am gynnwys gweithgaredd yn ein harferion a’n bywydau."

Mewn cyfarfod yn San Steffan yn gynharach y mis hwn, a oedd yn canolbwyntio ar faterion diogelwch i fenywod, nodwyd themâu allweddol a meysydd gweithredu ar gyfer gwneud chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn fwy diogel i fenywod.

Roeddent yn cynnwys gwell addysg am barch tuag at fenywod, gan sicrhau bod fframweithiau priodol ar waith i adrodd am ymddygiad misogynistaidd. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.