Mis Codi Ymwybyddiaeth Canser y Fron: 'Pwysig hunan-archwilio drwy'r flwyddyn'
Mis Codi Ymwybyddiaeth Canser y Fron: 'Pwysig hunan-archwilio drwy'r flwyddyn'
Gyda Mis Codi Ymwybyddiaeth Canser y Fron yn dirwyn i ben, mae tair dynes gyda thri phrofiad gwahanol yn annog pawb i hunan-archwilio drwy'r flwyddyn.
Mae Anwen Edwards, Anest Eifion a Nerys Owen i gyd wedi derbyn diagnosis o ganser y fron dros y blynyddoedd diwethaf.
Canser y fron ydy'r canser mwyaf cyffredin yn y DU, gydag un ddynes yn derbyn diagnosis bob 10 munud, yn ôl elusen Breast Cancer Now.
Yng Nghymru, mae tua 2,800 o bobl yn derbyn diagnosis o ganser y fron bob blwyddyn.
Mae mwyafrif yr achosion o ganser y fron (80%) ymhlith menywod sydd dros 50 oed.
Yn 46 oed ar y pryd, fe gafodd Anwen Edwards o Lanfairpwll, Ynys Môn ddiagnosis o ganser y fron ym mis Rhagfyr 2021 wedi iddi deimlo lwmp yn ei bron ddiwedd Hydref.
"Wrth gwrs, gyda Covid doedd neb yn cael mynd efo neb, o'n i yna fy hun," meddai wrth Newyddion S4C.
Ar ôl cadarnhad bod ganddi ganser y fron, cafodd Anwen lympectomi ym mis Ionawr 2022, sef llawdriniaeth i dynnu'r ardal lle mae'r canser yn bresennol o'r fron.
Gan nad oedd meddygon yn medru rhoi sicrwydd bod y canser i gyd wedi ei dynnu o'r fron, bu'n rhaid i Anwen Edwards godi'r fron ddiwedd Chwefror 2022, a derbyniodd chwe sesiwn o cemotherapi ar ôl hynny cyn cael gwybod bod y driniaeth wedi bod yn llwyddiannus.
Mae Mis Codi Ymwybyddiaeth Canser y Fron yn golygu llawer iddi.
"Mae'r mis yn bwysig, mae rili yn bwysig bod pobl yn ymwybodol i checio eu hunain. Nes i hwnna yn gwbod bod e'n mis canser y fron a nes i checio ond ma'r ffaith bod e'n cael ei hyrwyddo yn bwysig iawn iawn ond dyle fe ddigwydd trwy'r flwyddyn hefyd," meddai.
Er ei bod yn teimlo y dylai pob mis fod yn fis codi ymwybyddiaeth, mae Hydref yn gyfle i atgoffa menywod a dynion i hunan-archwilio.
"Ma' 'na gymaint o ganser gwahanol a ma'r misoedd gwahanol yma yn codi ymwybyddiaeth o wahanol mathau, ma' pob un rili yr un mor bwysig â'i gilydd ond dim ond bod merched a dynion, achos mi fedrith dynion gael e hefyd, bod pawb rili yn checio eu hunain ac yn ymwybodol i wneud hynny.
Yn 29 oed, derbyniodd Anest Eifion o Langefni, Ynys Môn ddiagnosis o ganser y fron math triphlyg negyddol ym mis Medi 2018.
Oherwydd ei hoed a'i gobeithion o gael plant, bu'n rhaid i Anest fynd i Ysbyty Liverpool Women's i gael triniaeth IVF er mwyn gallu rhewi ei hwyau ychydig wythnosau cyn iddi ddechrau ei thriniaeth canser.
Cychwynnodd Anest ar ei thriniaeth cemotherapi ddiwedd mis Hydref 2018 cyn mynd ymlaen i gael lympectomi ym mis Ebrill 2019 a 20 rownd o radiotherapi yn ddiweddarach.
"Does na ddim un triniaeth one shoe fits all math o beth - ma' triniaeth pawb a ma' stori pawb mor wahanol ag yn enwedig o gael y diagnosis yn 29 oed, ddim yn 'nabod neb arall oedd yr un oed â fi wedi ei gael o, o'dd hwnna yn broses reit unig," meddai.
Dim ond menywod sydd rhwng 50 a 70 oed sy'n gymwys i gael prawf mamogram, a hynny bob tair blynedd.
Dywed elusen Cancer Research UK bod rhaglen sgrinio'r fron yn darganfod canser mewn o gwmpas naw ymhob 1,000 o ferched sy'n cael eu sgrinio.
Yn ôl yr elusen, y rheswm pam nad yw menywod o dan 50 oed yn cael cynnig prawf mamogram ydi bod y risg o gael ganser y fron yn 'isel iawn ar y cyfan' a bod 'mamogramau yn anoddach i'w darllen mewn merched iau gan bod meinwe'r fron yn fwy dwys.'
Mae hyn yn ei gwneud hi'n bwysiach i ferched iau hunan-archwilio yn sgil y diffyg sgrinio, yn ôl Anest Eifion.
"Achos bod y gwasanaeth yna ddim yna i ferched o dan 50, dwi'n meddwl o ran checio, doedd o ddim yn rwbath o'n i'n neud achos doedd o ddim yn rwbath o'n i'n meddwl o'n i'n gorfod neud," meddai.
"Ma' 'na ddigon o bobl yn deud bod angen checio, ond dwi'n meddwl ma'n ddigon hawdd deud, stori arall ydi o i neud a dwi ddim yn meddwl bod digon yn gwneud."
Mae Anest Eifion bellach yn fam i ddau o blant bach, sef Mair a Maldwyn, ac mae'n awyddus i ddangos drwy ei phrofiad hi bod yna "olau ar ddiwedd y daith.
"Dwi'n meddwl achos oedd o'n rwbath rili pwysig i fi, ma' jyst 'di cappio'r broses bron bo' fi 'di gallu cael Mair a Maldwyn a ma' nhw'n iach a dwi wan yn iach," meddai.
"Ma' jyst yn dangos dwi'n meddwl bod 'na ola' a ma'n gallu digwydd a 'sa ddim isio mynd o flaen gofid, dim isio gor-boeni achos ma' 'na gymaint o wasanaetha' allan yna i gefnogi ni ac i roi petha' mewn lle a fyddai'n hynod o ddiolchgar am y gwasanaeth dwi 'di gael am byth dwi'n meddwl."
Yn 65 oed, mae Nerys Owen o'r Felinheli, Gwynedd wedi bod yn mynd am brofion mamogram rheolaidd bob tair blynedd ers yn 50 oed, ac yn mis Mehefin 2021, cafodd ddiagnosis o ganser y fron.
Bu'n rhaid i Nerys gael 12 sesiwn o cemotherapi cyn mynd ymlaen i gael triniaeth radiotherapi.
"Dyna'r peth gwaetha' amdana fo, y disgwyl ac edrych yn ôl 'wan dwi'n meddwl gan bod o'n adeg y clo a bod ni gyd yn gorfod gwisgo mygyda' a neb yn cael dod efo ni i'r apwyntiada yn gwmni i ni, oedd hi reit dywyll arna fi ar un adag ond nes i ddod drwyddi," meddai.
Yn fam i bump o blant ac yn nain i wyth o wyrion, ers i Nerys Owen gael ei diagnosis ddwy flynedd yn ôl, mae hi wedi bod yn annog aelodau o'i theulu i hunan-archwilio.
"A bod yn onesd, do'n i ddim yn checio fy hun yn ddigon aml ag oedd o dipyn bach o sioc achos o'n i ddim wedi dod o hyd i'r lwmp fy hun ond yn sicr ar ôl hynna, ma' genna i ddwy ferch, tair merch yng nghyfraith - ma'n bwysig, dwi 'di deud wrthyn nhw i gyd bod o'n bwysig bod nhw yn checio eu hunain yn aml," meddai.
"Ma' 'di bod yn sicr yn help i fi siarad yn y flwyddyn ola' 'ma nag oedd o pan o'n i'n mynd trwy ganol hyn 'lly. 'Sbio nôl 'wan, dwi'n gwenu ond oedd o reit ddigalon ar y pryd 'de."
'Hanfodol'
Mae'r ffigyrau diweddaraf gan wasanaeth sgrinio'r fron yng Nghymru, Bron Brawf Cymru, yn dangos nad ydynt wedi cyrraedd y safon gofynnol am dair blynedd yn olynol o sicrhau fod 70% o ferched rhwng 50 a 70 oed yn cael eu sgrinio bob blwyddyn.
68.9% oedd y canran yn 2019-20, o'i gymharu â 69.1% yn 2018-19 a 69% yn 2017-18.
Cafodd y ffigyrau diweddaraf hyn eu cyhoeddi fis Hydref diwethaf a dywedodd llefarydd ar ran Iechyd Cyhoeddus Cymru wrth Newyddion S4C fod "Bron Brawf Cymru yn gweithio i adfer y gwasanaeth sgrinio wedi i gyfyngiadau'r pandemig effeithio ar wasanaethau, ac o'r herwydd, nid yw'r data ar gyfer y blynyddoedd mwyaf diweddar yn barod i'w cyhoeddi eto.
"Mae monitro parhaus o'r gwasanaeth yn dangos i ni fod saith allan o bob 10 merch yn derbyn eu gwahoddiad i fynd am eu mamogram rheolaidd, sy’n cyd-fynd yn fras â'n targedau ni."
Er yn brofiad 'anghyfforddus' mae Anwen, Anest a Nerys yn annog unrhyw un sydd yn gymwys i fynd am brawf mamogram.
"Mae'r gwasanaeth 'na yna i ni i gadw ni'n saff a 'dan ni angen cymryd mantais ohona fo. Mae o 'mond yn cyrraedd i oed a dyna pam bod o mor bwysig wedyn i bobl iau i fod yn checio 'lly ond mae o mor bwysig achos os 'dan ni ddim yn defnyddio'r gwasanaeth 'na, mae o'n hanfodol i gadw ni'n saff," meddai Anest.
Ychwanegodd Anwen: "Mae e mor mor bwysig. Dwi'n gwbod falle bod pobl ofn mynd, ma' hwnna yn rywbeth neu teimlo'n embarrassed i fynd ond mae isio rhoi hwnna i'r neilltu wir. Ma' chydig o funude o fod yn anghyfforddus i rywbeth sy'n gallu safio bywyd rhywun, dyna 'dio o."