FIFA yn gwahardd cyn-lywydd Cymdeithas Bêl-droed Sbaen
30/10/2023
Mae cyn-lywydd Cymdeithas Bêl-droed Sbaen, Luis Rubiales, wedi’i wahardd gan FIFA am dair blynedd.
Ni fydd yn cael cymryd rhan mewn unrhyw weithgaredd yn ymwneud a phêl-droed yn ystod y cyfnod hwnnw.
Roedd Luis Rubiales, 46, wedi cusanu'r blaenwr Jenni Hermoso ar ei gwefusau yn dilyn buddugoliaeth Sbaen yn rownd derfynol Cwpan y Byd Merched.
Dywedodd Jenni Hermoso nad oedd hi wedi cydsynio i’r gusan.
Gwrthododd ymddiswyddo ar ôl y digwyddiad ar ôl y gêm yn erbyn Lloegr ym mis Awst ond cafodd ei wahardd dros dro gan FIFA.
Ddydd Llun, cyhoeddodd FIFA ei fod wedi cael ei wahardd am dair blynedd am dorri erthygl 13 eu cod disgyblu.