Newyddion S4C

Prifathro sy'n wynebu cyhuddiadau o gam-drin plentyn yn ymddangos o flaen llys

30/10/2023

Prifathro sy'n wynebu cyhuddiadau o gam-drin plentyn yn ymddangos o flaen llys

Mae prifathro ysgol uwchradd wedi ymddangos o flaen llys wrth wynebu cyhuddiadau o gam-drin plentyn yn rhywiol.

Fe wnaeth Neil Foden, 66 oed, o Hen Golwyn ymddangos dros linc fideo o Garchar y Berwyn, ar gyfer gwrandawiad yn Llys y Goron Yr Wyddgrug.

Mae wedi ei gyhuddo o droseddau gan gynnwys gweithgaredd rhywiol gyda phlentyn rhwng 13 a 15 oed, a chyfathrebu’n rhywiol gyda phlentyn.

Mae wedi ei wahardd o'i swydd am y tro wrth i'r ymchwiliad barhau.

Fe wnaeth Mr Foden siarad dros y linc fideo i'r llys er mwyn cadarnhau ei oedran a’i ddyddiad geni mewn gwrandawiad a wnaeth bara am 15 munud.

Mae'r achos wedi ei ohirio nes Dydd Gwener 5 Ionawr 2024.

Fe wnaeth y barnwr Rhys Rowlands roi gorchymyn yn rhoi cyfyngiadau ar beth oedd yn gallu cael ei adrodd o’r gwrandawiad.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.