Newyddion S4C

Rishi Sunak yn cadeirio cyfarfod Cobra ymysg pryderon am fygythiad terfysgol i'r DU

30/10/2023
Rishi Sunak

Mae'r Prif Weinidog Rishi Sunak wedi arwain cyfarfod Cobra brys ddydd Llun ar ôl pryderon y gallai’r gwrthdaro rhwng Israel a Hamas arwain at derfysgaeth ddomestig.

Fe wnaeth y Prif Weinidog a’r Ysgrifennydd Gartref, Suella Braverman, gyfarfod â lluoedd yr heddlu a swyddogion diogelwch cenedlaethol yn y cyfarfod.

Daw wedi i Gomisiynydd Heddlu Llundain, Syr Mark Rowley, rybuddio ddydd Sul fod terfysgaeth yn fwy tebygol, a bod y DU hefyd yn wynebu'r posibilrwydd o “fygythiadau gan Iran”.

Ar hyn o bryd, mae’r rhybudd ar gyfer terfysgaeth yng Nghymru, Lloegr a’r Alban yn 'sylweddol' gan olygu bod ymosodiad yn 'debygol'.

Mae’r rhybudd ar gyfer ymosodiad terfysgol wedi bod yn ‘debygol’ ers mis Chwefror y llynedd, pan gafodd y rhybudd ei ostwng o fod yn ‘ddifrifol’.

Mae’r Gweinidog Addysg, Robert Halfon, eisoes wedi pwysleisio bod rhaid i’r llywodraeth warchod dinasyddion rhag “bygythiad terfysgaeth” gan sicrhau eu bod yn “ddiogel.”

Dywedodd ei fod yn “gyfnod sy’n peri pryder” i Iddewon y DU wedi'r ymosodiad ar Israel gan Hamas ar 7 Hydref.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.