Luis Diaz: Tad chwaraewr pêl-droed Lerpwl wedi ei gipio yng Ngholombia
Mae tad chwaraewr pêl-droed Lerpwl, Luis Diaz, wedi’i gipio yng Ngholombia ar ôl iddo gael ei atal gan ddynion ag arfau.
Cafodd ei dad a'i fam eu stopio gan ddynion ar feiciau modur, a rheiny â drylliau yn eu meddiant.
Mae mam Luis Diaz, Cilenis Marulanda, bellach wedi ei hachub o ddinas Barrancas ond mae'r awdurdodau yn parhau i chwilio am ei dad.
Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd Arlywydd Colombia, Gustavo Petro: “Yn dilyn ymgyrch yn Barrancas, mae mam Luis Diaz wedi cael ei hachub, ac rydyn ni'n parhau i chwilio am ei dad.”
Dywedodd cyfarwyddwr heddlu'r wlad, y Cadfridog William Salamanca, ei fod wedi rhoi pob swyddog ar waith fel rhan o ymgyrch i ddod o hyd i dad Luis Diaz.
'Blaenoriaeth'
Yn ôl adroddiadau lleol, cafodd rhieni'r chwaraewr canol cae sy’n wreiddiol o Golombia, eu cipio tra'r oedden nhw'n teithio adref yn eu car.
Mae Ffederasiwn Pêl-droed Colombia wedi annog y fyddin a'r heddlu i achub tad Diaz cyn gynted â phosib.
“Rydym yn sefyll gyda Luis Diaz a’i deulu, ac rydym yn galw ar yr awdurdodau i weithredu’n fuan er mwyn ei achub," medden nhw.
Nid oedd Diaz, 26 oed, yn bresennol ar gyfer gêm Lerpwl yn erbyn Nottingham Forest yn yr Uwch Gynghrair ddydd Sul.
Dywedodd llefarydd ar ran clwb pêl-droed Lerpwl: “Rydym yn gobeithio y byddai’r mater yma’n cael ei ddatrys yn ddiogel a chyn gynted a bod modd.
“Yn y cyfamser, ein blaenoriaeth yw lles ein chwaraewyr.”