Newyddion S4C

Matthew Perry: Canlyniadau cyntaf post-mortem yn 'amhendant'

30/10/2023
Matthew Perry

Does dim sicrwydd eto sut y bu i'r actor Matthew Perry farw gyda chanlyniadau cyntaf prawf post-mortem yn “amhendant”, yn ôl adroddiadau o'r Unol Daleithiau. 

Mae disgwyl i ymchwiliadau pellach gael eu cynnal, gan gynnwys adroddiad tocsicoleg, cyn unrhyw ganlyniadau terfynol. 

Yn ôl NBC News, dywedodd Archwiliwr Meddygol Los Angeles y gallai fod yn wythnosau eto cyn i'r canlyniadau terfynol gael eu cyhoeddi.

Dywedodd teulu'r actor 54 oed eu bod nhw'n "torri eu calonnau” yn dilyn marwolaeth “trasig” eu mab. 

Mewn datganiad i’r cylchgrawn People, dywedodd ei deulu: “Fe ddaeth Matthew â chymaint o lawenydd i’r byd, fel actor ac fel ffrind.

“Roeddech chi yn golygu cymaint iddo ac rydym yn gwerthfawrogi eich holl gariad.”

'Ymchwiliad'

Cafodd Matthew Perry ei ddarganfod yn farw yn ei gartref, ag yntau wedi boddi meddai’r papur newydd The Los Angeles Times.

Dywedodd heddwas o Los Angeles wrth asiantaeth newyddion Associated Press eu bod wedi cael eu galw i gartref yr actor i gynnal “ymchwiliad i farwolaeth dyn yn ei 50au”.

Enwebwyd Perry am wobr Emmy am ei rôl fel Chandler Bing yn y gyfres Friends, gafodd ei ddarlledu rhwng 1994 a 2004.

Ymunodd â’i gyd-actorion Jennifer Aniston, Courteney Cox, Matt LeBlanc, Lisa Kudrow a David Schwimmer ar gyfer aduniad arbennig a gynhaliwyd gan James Corden yn 2021.

Yn ystod ei amser ar y gyfres, cafodd drafferthion iechyd gyda dibyniaeth a gorbryder. Fe ddisgrifiodd ei broblemau yn ei hunangofiant Friends, Lovers, and the Big Terrible Thing a gyhoeddwyd yn 2022.

Llun: Myung Jung Kim/PA Wire

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.