Newyddion S4C

Penodi Jamie Roberts i Fwrdd Undeb Rygbi Cymru

29/10/2023
Jamie Roberts

Mae'r cyn-chwaraewr rygbi rhyngwladol Jamie Roberts wedi ei benodi fel Cyfarwyddwr Annibynnol i Fwrdd Undeb Rygbi Cymru.

Enillodd 94 o gapiau dros Gymru – gan ennill dwy Gamp Lawn ac un Bencampwriaeth hefyd. 

Teithiodd gyda’r Llewod ddwywaith tra ‘roedd yn astudio meddygaeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Yn ddiweddarach enillodd raddau pellach ym Mhrifysgolion Loughborough a Chaergrawnt.

Mae'n ymuno gyda dau aelod newydd arall ar y Bwrdd - sef Amanda Bennett, cyn Brif Hyfforddwr Menywod Cymru ac yn arbenigwr ym maes Cynhwysiant, Amrywiaeth a Chyfartaledd, a Jennifer Mathias, Prif Swyddog Ariannol gyda chwmni Rathbone.

Wrth drafod ei benodiad, dywedodd Jamie Roberts: “Gan nad wyf wedi ymddeol ers llawer o amser, mae’r angerdd sydd gennyf tuag at y gamp yn enfawr o hyd. ‘Rwy’n ystryried cael fy mhenodi i’r Bwrdd yn fraint a chyfrifoldeb aruthrol – yn enwedig yn ystod y cyfnod allweddol hwn yn hanes Rygbi Cymru.

 “Mae fy mhrofiadau eang ar draws y byd wedi dysgu llawer iawn i mi o safbwynt perfformio ar y lefel uchaf un ac fe fyddaf yn ceisio gweithredu’r profiadau hynny er lles y gêm sydd wedi cael cymaint o ddylanwad ar fy mywyd fy hun.”

 Dywedodd Cadeirydd Undeb Rygbi Cymru, Richard Collier-Keywood: “Rydym wedi llwyddo sicrhau gwasanaeth unigolion amrywiol sy’n arbenigwyr gwirioneddol yn eu gwahanol feysydd – a hynny o blith llawer iawn o ymgeiswyr cyfiawn.

“Mae Bwrdd newydd Undeb Rygbi Cymru yn mynd i gynnwys cydbwysedd campus o arbenigedd ariannol, masnachol, llywodraethiant a gwybodaeth am rygbi ar y lefel uchaf un.

“Er bod y cydbwysedd o ran rhywedd wedi gwella’n sylweddol – mae’r amrywiaeth o syniadau a phrofiad fydd gennym yn sgîl penodi’r unigolion hyn – sydd yn uchel eu parch – yn fy mhlesio’n fawr.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.