Newyddion S4C

De Affrica yn bencampwyr rygbi'r byd unwaith eto

29/10/2023

De Affrica yn bencampwyr rygbi'r byd unwaith eto

Ar ôl gêm llawn drama a chyffro, De Affrica gafodd eu coroni'n bencampwyr rygbi’r byd nos Sadwrn. 

Fe wnaeth y Springboks guro Seland Newydd yn rownd derfynol Cwpan Rygbi’r Byd 2023 yn y Stade de France ym Mharis, wedi 80 munud o rygbi gwefreiddiol. 

Dyma’r tro gyntaf i dîm ennill y twrnamaint am y pedwerydd tro.

Dim ond un pwynt oedd yn gwahanu’r ddau dîm ar y chwiban olaf a'r sgôr terfynol oedd De Affrica 12-11 Seland Newydd.  

Y Springboks oedd yn rheoli’r gêm yn ystod yr hanner cyntaf gyda Seland Newydd yn derbyn sawl cosb am daclo peryglus. 

Cafodd Shannon Frizell o Seland Newydd gerdyn melyn am achosi anaf i Mbonambi, bachwr y Springboks.  

Daeth ergyd arall i’r Crysau Duon pan gafodd y capten Sam Cane ei anfon o’r maes am dacl beryglus ar Jesse Kriel. 

Yn dilyn adolygiad TMO, penderfynwyd y byddai hyn yn troi yn gerdyn coch. Roedd rhaid i Seland Newydd chwarae gyda 14 dyn am weddill y gêm. 

Ar ôl yr egwyl, tro y Springboks oedd hi i chwarae gyda 14 dyn wedi i’w capten, Siya Kolisi, dderbyn cerdyn melyn.

Ond nid oedd cais y maswr, Beauden Barrett yn ddigon i roi buddugoliaeth i Seland Newydd. 

Mae buddugoliaeth ddiweddaraf y Springboks yn golygu eu bod nhw wedi ennill hanner yr wyth twrnamaint Cwpan Rygbi'r Byd y maen nhw wedi cymryd rhan ynddynt.

Mewn cyfweliad gyda S4C ar ddiwedd y gêm dywedodd capten y Springboks, Siya Kolisi: "Does gen i ddim geiriau.

"Dylwn ni ddim bod yma. Rydyn ni wedi brwydro, a brwydro, a brwydro. 

"Rwy'n falch iawn o'r bois ond da iawn i Seland Newydd hefyd."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.