Tyson Fury'n llwyddo i amddiffyn ei deitl WBC o drwch blewyn
Fe lwyddodd Tyson Fury i ddal ei afael yn ei deitl WBC pwysau trwm yn ei ornest focsio yn erbyn Francis Ngannou nos Sadwrn, a hynny o drwch blewyn yn unig.
Aeth yr ornest 10 rownd yn Riyadh, Saudi Arabia, i'r pen, gyda'r penderfyniad ar bwyntiau'n un dadleuol.
Dyfarnwyd sgôr o 95-94 o blaid Ngannou gan un dyfarnwr, ond fe roddodd y ddau ddyfarnwr arall y penderfyniad i Fury gyda sgôr o 96-93 a 95-94.
Fe gafodd Fury ei daro i'r llawr yn dilyn ergyd nerthol gan Ngannou yn y drydedd rownd, ond fe lwyddodd i gario ymlaen i ymladd tan ddiwedd y rownd olaf.
Wrth siarad ar ddiwedd yr ornest, dywedodd Fury wrth TNT Sport: “Yn bendant doedd hynny ddim yn y sgript.
"Cefais fy nal o amgylch cefn fy mhen. Doeddwn i ddim yn brifo. Fe wnes i godi a mynd yn ôl i focsio.
"Mae'n ddyn lletchwith ac yn ddyrnwr da ac rwy'n ei barchu'n fawr.
"Mae wedi rhoi un o fy mrwydrau caletaf yn ystod y 10 mlynedd diwethaf i mi."
Inline Tweet: https://twitter.com/WBCBoxing/status/1718412450406777052
Dyma oedd gornest focsio broffesiynol gyntaf Ngannou, sydd wedi ymladd fel ymladdwr UFC cyn hyn.
Yn dilyn y canlyniad fe ddywedodd: "Dim ond tri mis a hanner oedd fy ngwersyll hyfforddi ac fe ddes i mewn i hyn gydag anaf.
"Ond dydw i ddim eisiau rhoi esgusodion. Byddaf yn edrych ar yr hyn y gallaf ei wneud nesaf i wella fy gêm i ddod yn ôl hyd yn oed yn well.
"Nawr rwy'n gwybod y gallaf wneud hyn, felly paratowch. Mae'r blaidd yn y tŷ."
Llun: TNT Sport