Degau o filoedd yn protestio o blaid Palesteina mewn dinasoedd ar draws y DU
Mae degau o filoedd o brotestwyr o blaid Palesteina wedi gorymdeithio ar hyd strydoedd yn Llundain, gan fynnu cadoediad yn rhyfel rhwng Israel a Hamas.
Roedd ralïau hefyd wedi’u trefnu mewn mannau eraill yn y DU – gan gynnwys Caerdydd, Manceinion, Caeredin a Glasgow.
Yn Llundain, ymgasglodd protestwyr gyda baneri a phosteri gan gynnau tân gwyllt a fflachiadau coch a gwyrdd.
Cafodd un ddynes ei tharo gan geffyl yr heddlu ar ôl i’r anifail gael ei syfrdanu gan dân gwyllt ond ni ddioddefodd anafiadau difrifol.
Roedd mwy na 1,000 o swyddogion Heddlu'r Met ar ddyletswydd ar gyfer y gwrthdystiad.
Dywedodd y Met ei fod yn disgwyl torfeydd mawr o amgylch yr Embankment, Westminster a Phontydd Waterloo, y Strand, Whitehall a ffyrdd cyfagos.
Cafodd dau o bobl eu harestio ar ôl ffrwgwd gyda'r heddlu ac fe gafwyd gwrth-brotestiadau mewn sawl rhan o Lundain.
Llun: PA