Newyddion S4C

'Gall strôc ddigwydd i unrhywun': Rhybudd menyw ar ôl cael strôc yn 25 oed

29/10/2023

'Gall strôc ddigwydd i unrhywun': Rhybudd menyw ar ôl cael strôc yn 25 oed

Cafodd Lauren Watson o Gaerffili strôc wyth mlynedd yn ôl, a hithau ond yn 25 oed ar y pryd. 

Wrth siarad gyda Newyddion S4C, dywedodd Lauren ei bod hi’n “lwcus i fod yma”

“Mae’n wyth mlynedd i fis Rhagfyr ers ges i strôc. 

“Tua wythnos cyn, o’n i yn y gym a teimlais i fy nghoes, wel doedd e ddim yn teimlo’n iawn. 

“O’n i’n oer yn y gwaith a roedd pobl yn gofyn i fi be oedd yn bod. Roedd gen i ben tost ofnadwy am tua wythnos. 

“O’n i’n meddwl migraine ond os o’n i’n gwybod y pethau yma am strôc, falle bydde ni wedi mynd i’r ysbyty yn gynt.”

A hithau’n ddiwrnod strôc y byd, mae Lauren yn galw ar bobl, boed yn ifanc neu yn hen, i fod yn fwy ymwybodol o’r symtomau.

Esboniodd Lauren: “Pan es i ar noson allan ar ddiwedd yr wythnos dywedais i wrth fy ffrindiau 'dwi ddim yn teimlo’n iawn'. 

“A wedyn ar bore dydd Sul o’n i’n teimlo’n rili dost a pan o’n i’n siarad doedd ddim yn neud sens. 

“O’n i’n chwydu ac yn ddryslyd ond doeddwn i ddim yn meddwl bod dim un o’r symtomau hyn yn rhan o’r strôc. A odd fy llaw yn dechrau mynd yn numb.

“Nid oedd strôc wedi croesi fy meddwl i achos o’n i mor ifanc”, meddai

"Ma strôc yn gallu digwydd i hen bobl ond o’n in 25 so mae’n gallu digwydd i unrhywun," esboniodd Lauren.

Fi dal yma

Pan aeth Lauren i’r ybsyty, nid oedd y meddygon yn credu taw strôc oedd wedi digwydd iddi. 

Esboniodd: “Dywedodd y nyrs ‘oh she’s probably taken something’ ond do’n i ddim. 

“Roedden nhw i gyd yn credu mod i ar gyffuriau. 

“Dywedodd y nyrs 'no we don’t look for strokes in young people'. O’n i’n 25,” meddai Lauren.  

Yn ôl ymchwil gan y Gymdeithas Strôc mae 58% o boblogaeth Cymru yn credu nad yw pobl ifanc yn galliu cael strôc. 

Mae’r gymdeithas yn rhybuddio y gall strôc effeithio ar unrhyw un o unrhyw oedran.

Cafodd tad Lauren Watson strôc hefyd, pan oedd yn 47 oed. 

Image
Lauren a'i thad
Lauren a'i thad

Cafodd Lauren thrombectomi, llawdriniaeth i gael gwared ar geulad gwaed o’r ymennydd. 

Mae hi nawr yn byw gyda pharlys ar ei hochr dde. 

“On i allan, yn mwynhau, jyst fel person ifanc normal ac ar ôl [y strôc] o’n i gofyn ‘oes rhaid i fi fod yma. Bydde pobl yn well heb fi?

“Ond fi dal yma,” meddai. 

“Dwi ddim yn gallu teimlo fy ngwyneb, na fy llaw dde.

“O’n i’n llaw dde ond odd rhaid i fi dygsu ysgrifennu gyda llaw chwith."

Yn dilyn y strôc, cafodd Lauren affasia hefyd – anhwylder sy'n effeithio ar allu i gyfathrebu. 

Mae'n gallu effeithio ar leferydd, yn ogystal â'r ffordd mae person yn ysgrifennu. 

Pan ddechreuodd Lauren ddysgu sut i siarad eto, yr iaith Gymraeg ddatblygodd yn gyntaf. 

“Pan ddeffrais i, doeddwn i ddim yn gallu teimlo ochr dde fy nghorff. 

“Doeddwn i ddim yn gallu siarad. 

“Ond iaith gyntaf ddaeth yn ôl pan ges i’r strôc oedd Cymraeg, ond Cymraeg yw ail iaith fi. 

“Roedd un o fy ffrinidau yn siarad Cymraeg ond os oedd hi ddim yma doedd neb yn gwybod beth on i’n dweud."

Bywyd yn mynd yn ei flaen

Image
Lauren Watson
Lauren a'i theulu

Mae Lauren nawr yn fam i ddwy ferch fach ond mae sgil-effeithiau’r strôc yn parhau i’w heffeithio. 

“Fy merched sy’n gefn i mi ond dydw i ddim yn gallu gwneud llawer o bethau heb help. 

“Rwyf wedi colli allan ar lawer o bethau. 

“Roeddwn i wir eisiau bod yn athrawes, gweithio gyda phlant ifanc ond fi ddim wedi gallu gwneud y naill un.

“Ond gyda dau o blant, partner, teulu amazing – ma bywyd yn mynd ymlaen.

“Nhw sy’n codi fi yn y bore. 

“Os fi’n cael diwrnod gwael, rwy’n trio dweud wrth fy hunain fy mod i’n fam dda. 

Rhaid cymryd bob dydd fel yr un olaf,” meddai Lauren. 

Hanfodol

Dywedodd Katie Chappelle, Cyfarwyddwr Cyswllt Cymru yn y Gymdeithas Strôc: “Mae ein hymchwil yn amlygu bod pobl yn dal i gredu bod strôc yn gyflwr sydd ond yn effeithio ar bobl hŷn.  

“Mae’n hanfodol ein bod yn herio’r camsyniad hwn ac yn gwneud pobl yn ymwybodol bod strôc yn effeithio ar oedolion ifainc hefyd.

“Mae un o bob pedair strôc yn digwydd i bobl o oed gweithio, a thua 400 o blant yn cael strôc yn y DU bob blwyddyn.  

“Ar ôl strôc, mae bywyd yn newid.  

“Mae dwy ran o dair o bobl sy’n goroesi strôc yn byw ag anabledd. Maen nhw’n gorfod dysgu i addasu i’w bywyd newydd. 

“Nid oes yn rhaid i strôc eich atal rhag gwneud y pethau y mae arnoch eisiau’u gwneud.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.