Gwŷl Cerdd Dannedd? Cais arbennig i gystadleuwyr yr wŷl eleni
Ar drothwy Gwŷl Cerdd Dant Caerdydd 2023, mae cais arbennig i gystadleuwyr a chefnogwyr yr ŵyl eleni gan y trefnwyr.
Mae gofyn i bawb sy'n cystadlu ddod â brwsh dannedd newydd gyda nhw i’r ŵyl.
Fe fydd yr ŵyl yn cael ei chynnal ar 11 Tachwedd yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro.
Mae disgwyl cannoedd o gystadleuwyr o bob cwr o Gymru i’r Coleg i gystadlu ym meysydd cerdd dant, canu gwerin, llefaru, dawnsio gwerin a’r delyn.
Eleni, mae'r ŵyl wedi partneru gyda Canolfan Huggard sydd yn cefnogi unigolion digartref sy’n cysgu ar strydoedd y brifddinas ac yn defnyddio eu gwasanaethau yng nghanol Caerdydd.
Dywedodd Eirian Evans, aelod o Bwyllgor Gwaith yr Ŵyl: “Gyda’r Ŵyl yn ymweld â Chaerdydd eleni roeddem yn awyddus iawn i bartneru gydag un o elusennau gweithgar y ddinas a chydweithio ar brosiect fyddai’n gadael gwaddol yng Nghaerdydd.
"Wedi sgwrs gyda Canolfan Huggard, sy’n gwneud gwaith arbennig gydag unigolion digartref yn y ddinas rhoddwyd cais am nwyddau hylendid a dyma darddiad yr apêl am frwshys dannedd.
"Addas iawn efallai i gefnogwyr yr Ŵyl Gerdd Dant.
“Felly, mae’n cais ni’n un clir; os fyddwch chi’n ymweld â’r ŵyl, rydym yn gofyn yn garedig iawn i chi ddod â brws dannedd newydd sbon, mewn pecyn heb ei agor gyda chi. Bydd bwcedi yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro i’w derbyn.”
Mae’r Huggard wedi bod yn cefnogi unigolion sy’n byw ar y strydoedd neu sy’n ddigartref yng Nghaerdydd ers 35 o flynyddoedd.
Dywedodd Richard Edwards, Prif Weithredwr y ganolfan: “Rydym yn ddiolchgar i drefnwyr a chefnogwyr yr Ŵyl Gerdd Dant am eu cefnogaeth.
"Mae gallu brwsio ein dannedd gyda brws dannedd glan yn rhywbeth mae’r mwyafrif ohonom yn ei gymryd yn ganiataol. Ond nid felly i bobl digartref ac felly dyna paham mae hi’n bwysig ein bod ni yn Huggard yn darparu newyddau fel brwshys dannedd i bobl sy’n defnyddio ein cawodydd.”